Cyfnod modern cynnar Cymru

Oddi ar Wicipedia
William Morgan gyda'i feibl Gymraeg

Mae'r cyfnod modern cynnar Cymru yn dilyn y cyfnod 1485 i 1800.

Dechreuodd y cyfnod hwn gyda theyrnasiad Harri Tudur ar goron Lloegr ar ôl iddo ennill Brwydr Bosworth yn 1485, a daeth i ben gyda marwolaeth Elisabeth I yn 1603 a hithau'n ddiblant.

Roedd yn gyfnod cythryblus yn grefyddol gyda Harri VIII o Loegr yn cweryla gyda'r Pab a sefydlu Eglwys Loegr. Fel adwaith yn erbyn y Diwygiad Protestannaidd cafwyd cyfnod o geisio adfer y ffydd Gatholig gan y frenhines Mari I o Loegr. Ceisiodd ei olynydd Elisabeth I ddilyn polisi cymhedrol o oddefgarwch ar y dechrau ond cododd to o Gatholigion milwriaethus. Dyma gyfnod y Gwrthddiwygiad Catholig, cyfnod o erlid pobl fel Rhisiart Gwyn a William Davies. Roedd Owen Lewis, Gruffydd Robert a Morys Clynnog ymysg Cymry Catholigaidd eraill y cyfnod. Bu erlid ar y Piwritaniaid hefyd, ar bobl fel John Penry.

Dyma gyfnod Deddf Uno 1536 a hefyd diddymu'r mynachlogydd a chyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.

Rhyfel[golygu | golygu cod]

Rhyfeloedd y Rhosynnau[golygu | golygu cod]

Yn Rhyfeloedd y Rhosynnau lle ranwyd cefnogaeth y Cymry. Bu Harri Tudur yn byw'n alltud yn Llydaw a defnyddiodd draddodiad barddol proffwydol Cymreig (Mab Darogan) a'i daid oedd Owain ap Maredudd (Owain Tudur) a oedd yn gefnder i Owain Glyndŵr. Enillodd gefnogaeth yng Nghymru ar ôl dweud, "ein tywysogaeth ni o Gymru a'r bobl o'r un peth i'w rhyddid blaenorol, gan eu traddodi o'r fath gaethwasanaethau truenus ag y buont yn druenus ers tro byd." Glaniodd ym Mae'r Felin ym Mhenrhyn Dale ym Mhenfro, enillodd Brwydr Maes Bosworth gan chwifo 'Draig Goch Cadwaladr". Gwelwyd buddugoliaeth 1485 fel un Cymreig gan Gymry.[1]

Deddfau 1536-43[golygu | golygu cod]

Ar ôl i Harri VIII wneud ei hun yn bennaeth Eglwys Lloegr ym 1534, gwelwyd Cymru fel broblem bosibl a oedd yn cynnwys dynion uchelgeisiol a oedd yn anhapus a'i hanfantais ethnig ac yn rhwystredig gyda chymhlethdodau cyfreithiol. Bu Cymru hefyd yn dir glanio i Harri Tudur ac yn agos at Iwerddon Gatholig. Prif weinyddwr coron Lloegr, Thomas Cromwell, a anogodd y Deddfau yn 1536 a 1542-43 i wneud Cymru yn rhan o Loegr. Diddymwyd Y Mers ac ehangwyd Tywysogaeth Cymru dros Gymru cyfan. Dilewyd y Gyfraith Cymreig. Disgrifiwyd Cymru fel "Tywysogaeth, Gwlad neu Diriogaeth" a ffirfiwyd ffin â Lloegr. Caniatawyd i Gymry ddal swydd gyhoeddus ond gyda â'r gofyniad i allu siarad Saesneg a gwnaed Saesneg yn iaith y llysoedd.[2] Yn ôl yr awdur Walter Davies mewn traethawd eisteddfodol yn 1791, pasiwyd y ddedf gan Harri VIII mewn ymateb i gwyn gan y Cymry nad oedd gennynt yr un hawliau a'r Saeson.[3] Yn ôl yr hanesydd gyfoes Martin Johnes, roedd yr uchelwyr Cymreig yn croesawu ennill hwaliau newydd a therfyn y system apartheid a fodolodd tan y pwynt hwn.[2]

Rhyfeloedd y Tair Teyrnas[golygu | golygu cod]

Roedd Cymru'n llethol yn Frenhinwyr yn Rhyfeloedd y Tair Teyrnas ar ddechrau'r 17eg ganrif, er bod rhai eithriadau nodedig megis John Jones Maesygarnedd a'r llenor Piwritanaidd Morgan Llwyd. Roedd Cymru yn ffynhonnell bwysig o ddynion i fyddinoedd Brenin Charles I o Loegr[4] er na fu unrhyw frwydrau mawr yng Nghymru. Dechreuodd Ail Ryfel Cartref Lloegr pan newidiodd milwyr Seneddol di-dâl yn Sir Benfro ochr yn gynnar yn 1648.[5]

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, bu rhan fwyaf o uchelwyr Cymreig yn gefnogol o'r Stuartiaid oherwydd fod James I yn ddisgynydd i Harri Tudur a welwyd fel brenin Cymreig. Bu brwydrau ffyrnig yng nghymru gan gynnwys Brwydr Sain Ffagan 1648[6]

Y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Ym 1567, cwblhaodd William Salesbury a Thomas Huet y cyfieithiad modern cyntaf o'r Testament Newydd a'r cyfieithiad cyntaf o'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Ym 1588, cwblhaodd William Morgan gyfieithiad o'r Beibl cyfan. Roedd y cyfieithiadau hyn yn gam pwysig i barhad yr iaith Gymraeg a chawsant yr effaith o roi statws i'r Gymraeg fel iaith litwrgaidd a chyfrwng addoli. Roedd gan hyn rôl arwyddocaol yn ei ddefnydd parhaus fel cyfrwng cyfathrebu bob dydd ac fel iaith lenyddol hyd heddiw er gwaethaf pwysau’r Saesneg.[7]

Yn 1588, William Morgan cynhyrchodd y cyfieithiad llawn cyntaf o'r Beibl Gymraeg.[8][9] Beibl William Morgan yn un o'r llyfrau mwyaf arwyddocaol yn yr iaith Gymraeg ac fe wnaeth ei chyhoeddiad gynyddu statws ac eangder y Gymraeg yn sylweddol.[8]

Crefydd[golygu | golygu cod]

Yr esgob William Morgan gyda'i feibl

Newidiodd y crefydd swyddogol o Catholigaeth i Brotestanaeth yn 1533, yn ôl i Gatholigaeth yn 1553-1558 ac yna'n ôl i brotestaniaeth gyda Elisabeth I. Ysgrifenodd William Morgan y Beibl yn Gymraeg yn 1588 ar ôl lobïo gan Brotestaniaid o Ogledd Cymru i San Steffan orchymun cyfieithiad o'r beibl i'r Gymraeg i sicrhau diwygiad y Cymry. Daeth rhannau o Gymru megis Dinbych-y-pysgod yn fwy cyfoethog erbyn diwedd ei theyrnasiaeth ond roedd Cymru yn parhau i fod yn wlad tlawd annatblygedig heb ddosbarth canol cryf.[6]

Daeth Y Diwygiad Methodistaidd i'r amlwg fel mudiad annibynnol yng Nghymru a arweiniwyd gan Howel Harris a Daniel Rowland yn yr 18g. Daeth William Williams, Pantycelyn i'r amlwg yn yr un cyfnod, yn enwedig fel awdur 800 o emynnau.[10]

Calfinistiaeth[golygu | golygu cod]

Cyflwynodd yr esgob Richard Davies a'r clerig protestant John Penry ddiwinyddiaeth galfinaidd i Gymru. Datblygodd Calfinistiaeth yn ystod y cyfnod Pwritanaidd yn dilyn ailffurfurfio'r frenhiniaeth Seisnig gyda Siarl II ac yn ystod y symudiad methodistaidd yng Nghymru. Ychydig o gopïau o weithiau Calvin oedd ar gael cyn canol y 19g.[11]

Adfywiad Methodistaidd[golygu | golygu cod]

Gwelodd y 18fed ganrif hefyd y diwygiad Methodistaidd Cymreig, dan arweiniad Daniel Rowland, Howel Harris a William Williams (Pantycelyn).[12] Bu Anghydffurfiaeth yn ddylanwad arwyddocaol yng Nghymru o'r ddeunawfed ganrif i'r ugeinfed ganrif. Diwygiad Methodistaidd Cymreig y 18fed ganrif oedd un o'r mudiadau crefyddol a chymdeithasol mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru. Dechreuodd y diwygiad o fewn Eglwys Loegr yng Nghymru ac arhosodd ar y dechrau fel grŵp o'i mewn, ond roedd y diwygiad Cymreig yn wahanol i'r diwygiad Methodistaidd yn Lloegr gan mai Calfinaidd yn hytrach nag Arminaidd oedd ei diwinyddiaeth. Yn gynnar yn y 19eg ganrif torrodd y Methodistiaid Cymreig i ffwrdd oddi wrth yr eglwys Anglicanaidd a sefydlu eu henwad eu hunain, sef Eglwys Bresbyteraidd Cymru bellach. Arweiniodd hyn hefyd at gryfhau enwadau anghydffurfiol eraill, ac erbyn canol y 19eg ganrif, Anghydffurfwyr oedd Cymru i raddau helaeth mewn crefydd. Roedd goblygiadau sylweddol i hyn i'r Gymraeg gan mai hi oedd prif iaith eglwysi anghydffurfiol Cymru. Roedd yr ysgolion Sul a ddaeth yn nodwedd bwysig o fywyd Cymru yn gwneud rhan fawr o’r boblogaeth yn llythrennog yn y Gymraeg, a oedd yn bwysig i barhad yr iaith gan nad oedd yn cael ei haddysgu yn yr ysgolion. Yn raddol, adeiladodd Methodistiaid Cymreig eu rhwydweithiau, strwythurau, a hyd yn oed tai cwrdd (neu gapeli) eu hunain, a arweiniodd yn y pen draw at ymwahaniad 1811 a sefydlu Eglwys Bresbyteraidd Methodistiaid Calfinaidd Cymru yn ffurfiol yn 1823.[13]

Addysg[golygu | golygu cod]

Ysgolion Griffith Jones[golygu | golygu cod]

Roedd addysg yng Nghymru ar bwynt isel yn y cyfnod hwn. Roedd addysg ar gael yn Saesneg yn unig tra bod y mwyafrif o'r Cymry yn siarad Cymraeg. Yn 1731 fe wnaeth Griffith Jones ddechrau ysgolion a oedd yn cylchredeg yng Ngeredigion. Roeddent yn cael eu cynnal mewn un lle ac yna yn "cylchredeg" i leoliad arall. Cymraeg oedd iaith yr ysgolion hyn. Erbyn marwolaeth Griffith Jones yn 1761, fe wnaeth tua 250,000 o bobl ddysgu i ddarllen trwy'r ysgolion hyn trwy Gymru.[14] Bu'r system yn gymorth i bobl cefn gwlad i ddarllen y beibl. Bu hyd yn oed Catherine fawr Rwssia yn awyddus i ddfnyddio'r system ar ôl clywed amdani. Yn yr un cyfnod, bu mudiad Celtaidd a sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain yn 1751.[10] Er hyn, bu eang i wrthnodi'r Gymraeg a welwyd gyda'r Welsh Not.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 148–152. ISBN 978-1-84990-373-8.
  2. 2.0 2.1 Johnes, Martin (2019-08-25). Wales: England's Colony (yn Saesneg). Parthian Books. tt. 65–69. ISBN 978-1-912681-56-3.
  3. Davies, Walter (1791). Rhyddid: traethawd a ennillodd ariandlws Cymdeithas y Gwyneddigion ar ei thestun i eisteddfod Llanelwy B.A. M, DCC, XC. Gan Walter Davies. 1791. Internet Archive. tt. 65–73.
  4. Geraint H. Jenkins, The Foundations of Modern Wales (Oxford University Press, 1987), tt.5-6
  5. John Davies, A History of Wales, t.280
  6. 6.0 6.1 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 157–167. ISBN 978-1-84990-373-8.
  7. Jenkins, The Foundations of Modern Wales, t.7
  8. 8.0 8.1 Davies, John (Ed) (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 572. ISBN 978-0-7083-1953-6.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  9. G. Williams, Recovery, Reorientation and Reformation, tt.322–3
  10. 10.0 10.1 10.2 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 175–189. ISBN 978-1-84990-373-8.
  11. D. Densil Morgan, "Calvinism in Wales: c.1590–1909", Welsh Journal of Religious History 4 (2009): 22-36
  12. Jenkins, The Foundations of Modern Wales, tt.347–50
  13. Peter Yalden, "Association, Community and the Origins of Secularisation: English and Welsh Nonconformity, c. 1850–1930." Journal of Ecclesiastical History 55#2 (2004): 293-324.
  14. Jenkins, The Foundations of Modern Wales, tt.370–377