Neidio i'r cynnwys

Arwel Gruffydd

Oddi ar Wicipedia
Arwel Gruffydd
GanwydAwst 1967 Edit this on Wikidata
Tanygrisiau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cyfarwyddwr theatr Edit this on Wikidata

Actor, cyfarwyddwr a Chyn-Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yw Arwel Gruffydd (ganwyd Awst 1967).

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i magwyd yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog. Dechreuodd berfformio ar lwyfan yn ifanc iawn, yn bennaf trwy gystadlu mewn eisteddfodau lleol, yn canu a llefaru. Yn naw oed ymunodd â Seindorf Arian yr Oakley.[1] Derbyniodd ei addysg uwchradd yn ysgol gyfun Y Moelwyn ac yna Coleg Prifysgol Bangor lle'r astudiodd Cymraeg fel prif bwnc a cherddoriaeth fel ail bwnc. Derbyniodd radd BA Anrhydedd yn y Gymraeg yn 1988. Derbyniodd ddiploma ôl-radd o ysgol ddrama Webber Douglas Academy of Dramatic Art, Llundain yn 1989.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Tra roedd yn fyfyriwr ym Mangor, cafodd ei gastio i chwarae un o'r prif rannau mewn pennod o'r ddrama deledu Deryn (gyda John Ogwen yn y prif ran) gan Ffilmiau'r Nant, a hefyd yn y prif ran yn y ffilm Stormydd Awst gan gwmni teledu Gaucho, wedi'i chyfarwyddo gan Endaf Emlyn. Yn dilyn ei astudiaethau yn ysgol ddrama Webber Douglas, bu'n actio mewn dramâu llwyfan gyda Chwmni Theatr Gwynedd, Hwyl a Fflag a Theatr Bara Caws, gan fynd ymlaen i weithio'n rheolaidd fel actor ffilm, teledu, radio a theatr. Yn ddiweddarach aeth ati i ysgrifennu a chyfarwyddo ei ffilmiau byrion ei hun. Yn 2002 enillodd wobr Wobr D. M. Davies am un o'r ffilmiau hyn, Cyn Elo'r Haul, yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru, Caerdydd.[1] Hefyd yn 2002 enillodd wobr BAFTA Cymru, Actor Gwrywaidd Gorau, am ei waith ar y gyfres Treflan, gan gwmni teledu Al Fresco, wedi'i chyfarwyddo gan Timothy Lyn. Yn 2024, chwaraeodd e perfformiwr drag a rheolwr o'r clwb nos Neverland yng nghyfres deledu BBC Lost Boys & Fairies gan Daf James.[2][3]

Roedd yn Rheolwr Llenyddol gyda chwmni ysgrifennu newydd Sgript Cymru rhwng Mawrth 2006 a Mawrth 2008, ac yna daeth yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Sherman Cymru rhwng Mai 2008 ac Ebrill 2011, lle roedd yn gyfrifol am raglen Gymraeg y cwmni.[4]

Fe'i apwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2011 a dechreuodd ar y gwaith ar 3 Mai,[5] yn gyntaf ar gytundeb pum mlynedd. Yng Ngorffennaf 2016 cyhoeddwyd bod ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei ail-benodi am bum mlynedd arall.[6] Parhaodd yn y swydd hyd Mai 2022. Ers hynny, mae'n gweithio ar ei liwt ei hun fel actor, awdur a chyfarwyddwr theatr.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Actio[golygu | golygu cod]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

  • Tŷ Chwith (rhaglen i blant meithrin, 1990au, HTV ar gyfer S4C)
  • Troi a Throi (cyflwynydd rhaglen i blant iau, 1990au, HTV ar gyfer S4C)
  • Paradwys Ffwl (cyfres fer, 1993)
  • Caffi Sali Mali (Tomos Caradog, 1990au, Sianco ar gyfer S4C)
  • Chwedlau (storiwr, 1990au, Fi-Ti-Ti-Fi ar gyfer S4C)
  • Traed Mewn Cyffion (1991)
  • Y Graith (1992)
  • Llafur Cariad (1993)
  • Iechyd Da (1994)
  • Cyw Haul (prif gymeriad - Bleddyn, 1996-1998)
  • Treflan (prif gymeriad - Capten Richard Trefor, 2002-2004)
  • Bob a'i Fam (prif cymeriad - Bob, 2002)
  • Tess of the d'Urbervilles (2008)
  • Creisis (2024)

Cyfarwyddo[golygu | golygu cod]

Dramâu llwyfan[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Dan Ganu: Holi Arwel Gruffydd. Barn (Mehefin 2011). Adalwyd ar 9 Awst 2016.
  2. The True Story Behind Lost Boys & Fairies (en) , Country & Town House, 3 Mehefin 2024.
  3. (Saesneg) Lost Boys & Fairies cast and creatives on the bold new series - "It's totally joyous, it's also absolutely heart-breaking - a real gut punch". BBC Media (29 Mai 2024). Adalwyd ar 5 Mehefin 2024.
  4. (Saesneg) Proffil LinkedIn. Adalwyd ar 9 Awst 2016.
  5. Arwel Gruffydd yn gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru , Golwg360, 1 Mawrth 2011. Cyrchwyd ar 9 Awst 2016.
  6.  Adeiladu ar Lwyddiannau Diweddar. Theatr Genedlaethol Cymru (27 Gorffennaf 2016). Adalwyd ar 9 Awst 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]