Dafydd James
Dafydd James | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, dramodydd, cyfansoddwr, sgriptiwr |
Cyfansoddwr, actor, dramodydd a sgriptiwr Cymreig ydy Dafydd James. Cafodd ei hyfforddi yn y London International School of Performing Arts (LISPA) ac yn ddiweddar cyflwynodd ei ddoethuriaeth mewn perfformio i Brifysgol Warwick.
Mae ef wedi cyfansoddi a chyfarwyddo nifer o sioeau gan gynnwys The Hunting of the Snark; Ghost Shirt; Mythed; Pinocchio; Apocalypse Wow; If That’s All There Is; Blast; Woof Woof Kerching a Geek Tragedy yng Canolfan y Mileniwm, Caerdydd; Under Milk Wood, Strike 25 (Mess up the Mess) a Plentyn yr Eira.
Mae ef wedi perfformio gyda chwmnïau Theatr Genedlaethol Cymru; Theatr Na N’og; yn ogystal â bod yn athro ac yn westai arbennig i'r RSAMD; Sherman Cymru; BAC; y Lyric (Hammersmith); a'r Gate.
Fel sgriptiwr, ysgrifennodd ar gyfer y Fiction Factory ar y gyfres deledu Gymraeg Caerdydd a chafodd ei gomisynu i ysgrifennu dwy ddrama ar gyfer Script Cymru. Mae ei ddrama ddiweddaraf – Llwyth – ar daith o amgylch Cymru a Llundain ar hyn o bryd.
Yn 2024 darlledwyd ei ddrama deledu Lost Boys & Fairies ar rwydwaith Brydeinig y BBC. Mae'r gyfres yn dilyn hanes pâr hoyw wrth iddynt fabwysiadu plentyn. Rhan o hynodrwydd y gyfres yw bod y sgript yn y Gymraeg a'r Saesneg gan adlewyrchu realiti ieithyddol y cymeriadau.[1]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Daf James yn dod â'r Gymraeg i primetime". BBC Cymru Fyw. 4 Mehefin 2024.