Neidio i'r cynnwys

Teyrnas Morgannwg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Arglwyddiaeth Morgannwg)
Arfbais Teyrnas Morgannwg

Roedd Teyrnas Morgannwg yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Cymerodd y deyrnas ei henw oddi wrth un o'i brenhinoedd cynnar, Morgan Mwynfawr (fl tua 730). Enw arall arni oedd "Gwlad Morgan", a roddodd Glamorgan.

Cnewyllyn y deyrnas oedd Glywysing, ond ar adegau gallai hefyd gynnwys Gwent a dau o gantrefi Ystrad Tywi, sef fwy neu lai y cyfan o dde-ddwyrain Cymru.

Daeth y deyrnas i ben pan ddiorseddwyd y brenin olaf, Iestyn ap Gwrgant, gan y Norman Robert Fitz Hammo yn 1093. Llwyddodd disgynyddion Iestyn i gadw gafael ar ran o'r diriogaeth fel Arglwyddi Afan. O hynny allan, cyfyngwyd Morgannwg fel uned i'r ardal sy'n gorwedd rhwng afonydd Nedd a Thaf. Ychwanegwyd arglwyddiaeth Gŵyr i greu sir newydd Forgannwg trwy Ddeddf Uno 1536.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ychydig iawn a wyddom am fywyd llenyddol y Forgannwg gynnar. Ym Muchedd Sant Gwynllwg (ysgrifennwyd tua 1100), dywedir bod bardd o Forgannwg wedi cyfansoddi cerddi'n ymwneud â hanes Morgannwg a Chymru a mawl i'r sant. Yn y Mabinogi disgrifir Gwydion a Lleu Llaw Gyffes yn ymweld ag Arianrhod "yn rhith beirdd o Forgannwg", sy'n awgrymu fod beirdd y deyrnas yn arfer teithio i lysoedd mewn rhannau eraill o Gymru cyn cyfnod y Normaniaid. Yn ogystal, gwyddom fod gan Berddig, bardd y brenin Gruffudd ap Llywelyn, dir "ar gyffiniau Gwent", sef yn nwyrain Morgannwg yn ôl pob tebyg.[1]

Mae nifer o ffugiadau hynafiaethol Iolo Morganwg yn ymwneud â hanes a llenyddiaeth Morgannwg yn yr Oesoedd Canol ac rhaid bod yn ofalus wrth ddewis ffynonellau am y cyfnod gan fod sawl awdur sy ddim yn hanesydd proffesiynol yn dal i ddyfynu yn anfeirniadol o waith Iolo.

Brenhinoedd[golygu | golygu cod]

Cantrefi a chymydau[golygu | golygu cod]

Fel y nodir uchod, amrywiodd ffiniau'r deyrnas. Rhoddir yma gantrefi Morgannwg a'u cymydau yng nghyfnod y Normaniaid.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, tud. 1.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • J. S. Corbett, Glamorgan (1925)
  • T. B. Pugh (gol.), Glamorgan County History (1971)
  • G. Williams, Glamorgan County History (1974)
  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948). Pennod I.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]