Neidio i'r cynnwys

Y diwylliant Hallstatt

Oddi ar Wicipedia
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Rhaghanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Enwir y diwylliant Hallstatt ar ôl Hallstatt, pentref yn ardal Salzkammergut yn Awstria lle darganfuwyd mynwent gynhanesyddol enfawr oedd yn cynnwys 1045 o feddau. Fe'i darganfuwyd gan Ramsauer yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y bobl yn Hallstatt yn cloddio am halen o'r 8fed ganrif CC hyd y bumed. Mae arddull y nwyddau yn y beddau yn nodedig iawn a cheir gwrthrychau o'r un arddull ledled Ewrop.

Rhennir diwylliant Hallstatt yn Hallstatt Dwyreiniol a Hallstatt Gorllewinol. Mae tiriogaeth y diwyyllaint dwyreinol yn cynnwys Croatia, Slofenia, gorllewin Hwngari, Awstria, Morafia, a Slofacia, ac yn wahanol iawn i'r un gorllewinol sydd yn cynnwys yr Eidal, y Swistir, dwyrain Ffrainc, de'r Almaen, a Bohemia. Ond roedd diwylliant yn newid gyda'r canrifoedd, a hefyd mewn canlyniad yr arfau, y crochenwaith a'r tlysau a gyplysir ag ef.

Gyda newidiadau mewn dulliau a symudiad poblogaeth ehangodd y diwylliant Hallstatt tua'r gorllewin: Penrhyn Iberia, Prydain ac Iwerddon. Mae'n debyg i o leiaf rhan o'r ymlediad hwn gael ei wneud gan bobl oedd yn siarad ieithoedd Celtaidd. Darganfuwyd crochenwaith du o Attica mewn beddau Hallstatt sy'n tystio i fasnach rhwng Gwlad Groeg a'r ardal Hallstatt, trwy Marseille, mae'n debyg. Nwyddau eraill a fewnforiwyd oedd ifori ac (efallai) gwin.

Pinau gwallt o'r cyfnod Hallstatt

Yn yr ardalodd Hallstatt canolog adeiladid beddau moethus iawn ar un cyfnod. Cleddid unigolion o statws uchel o dan twmwli enfawr ger bryngaerau, e.e. ym Magdalenenberg yn ne'r Almaen. Roedd llawer o'r beddau hyn yn cynnwys cerbydau rhyfel a ieuau ceffylau, er enghraift yn Bycí Skalá, Vix a Hochdorf, ond mae enghreifftiau yn Swydd Efrog yn Lloegr hefyd. Darganfuwyd model o gerbyd rhyfel wedi ei wneud o blwm mewn bedd yn Frögg, Carinthia.

Beddroddau Hallstatt

Fel arfer, ceir gweithdai gofaint efydd, arian ac aur yng nghaerau'r cyfnod, er enghraifft yn yr Heuneburg ar Afon Donwy, Mont Lassois ger Chatillon-sur-Seine yn nwyrain Ffrainc ac yn Molpir yn y Weriniaeth Tsiec.

Mae celfyddyd y cyfnod yn cynnwys gemwaith wedi ei gwneud o efydd ac aur a cherfluniau wedi eu gwneud o garreg.

Ffynhonnell y testun Saesneg gwreiddiol[golygu | golygu cod]

  • F.E. Barth, J. Biel, et al., Vierrädrige Wagen der HallstattzeitVierrädrige Wagen der Hallstattzeit (Mainz: RGZM, 1987)