Neidio i'r cynnwys

Tlysau yr Hen Oesoedd

Oddi ar Wicipedia
Tlysau yr Hen Oesoedd
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
AwdurLewis Morris
CyhoeddwrLewis Morris
GwladCymru
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1902 Edit this on Wikidata
Argaeleddallan o brint.
GenreBarddoniaeth
Lleoliad cyhoeddiLerpwl Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Cyfrol o gerddi a pheth rhyddiaith ysgafn a gyhoeddwyd gan y llenor Lewis Morris yn 1735 yw Tlysau yr Hen Oesoedd. Fe'i hargraffwyd ar ei wasg ei hun yng Nghaergybi. Y bwriad oedd iddo fod y cyntaf mewn cyfres ond ni chafwyd rhagor. Dyma'r llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu ym Môn a dim ond yr ail yng ngogledd Cymru. Mae ymysg y llyfrau prinnaf yn y Gymraeg. Credid yn 1864 mai dim ond dau gopi cyflawn a oedd ar gael, ac argraffwyd can copi gan Isaac Foulkes gydag adargraffiad trwy lun o un o'r cyfryw gopïau. Rhifwyd pob un o'r copïau hynny.

Y teitl llawn yw: 'Tlysau | yr Hen Oesoedd : | sef, Gwaith Doethion y Cynfyd.' Llyfr 16 tudalen 8plyg.

Amcan Lewis Morris oedd cyflenwi llenyddiaeth Gymraeg boblogaidd ond o safon uchel i ddiwallu bwlch yn y farchnad a lenwid gan waith awduron Saesneg. "Er mwyn denu y Cymry Seisnigaidd i ddarllen Cymraeg, ac i graffu ar beth na chlywsant erioed son am dano (sef bod dysg a gwybodaeth gynt yng Nghymru)," rhoddodd y cynwysiad yn Saesneg.

Ar ddiwedd y rhagymadrodd i'r llyfr mae Lewis Morris yn annog ei ddarllenwyr i brynu llyfrau Cymraeg:

'Yr argraffwasg, medd y doethion, yw Cannwyll y byd, a Rhyddid Plant Prydain. Pam i ninnau (a fuom wŷr mor glewion, gynt! os oes coel arnom) na cheisiwn beth o'r goleuni? Swllt o bwrs pob un o honoch, tuag at y papyr a'r gwaith, a lanwai'r wlad o lyfrau da, ac a llawer o fwynder a dyddanwch, ac a gadwai'ch enwau i dragwyddoldeb, fal cenhedloedd ereill. Oni wnewch, gwnewch a fynnech. Duw gyda chwi! yw dymuniad eich ufudd wasanaethwr.'

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig 1650 i 1850 (Lerpwl, 1891)
  • Gwilym Lleyn (William Rowlands), Llyfryddiaeth y Cymry (ail argraffiad, Llanidloes, 1869), tud. 368-9.