System etholiadol 'y cyntaf i'r felin'

Oddi ar Wicipedia
System etholiadol 'y cyntaf i'r felin'
Enghraifft o'r canlynolsystem etholiadol Edit this on Wikidata
Mathsystem etholiadol 'y cyntaf i'r felin' Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

System etholiadol a ddefnyddir ar gyfer Tai'r Cyffredin yn y Deyrnas Unedig a Chanada; yn yr Unol Daleithiau ac mewn rhai gwledydd erall yw system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn ôl y system, mae un aelod seneddol yn cael ei ethol ar gyfer pob etholaeth. Mae pleidleiswyr yn pleidleisio dros un ymgeisydd yn unig. Etholir yr ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau heb ystyried a ydy ef neu hi wedi derbyn mwyafrif absoliwt o'r cyfanswm o bleidleisiau. Mae'r system felly yn cyferbynnu â systemau etholiadol eraill, megis y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, lle mae ymgeiswyr yn gorfod ennill mwyafrif absoliwt o'r pleidleisiau, neu systemau cynrychiolaeth gyfrannol lle mae pleidiau yn derbyn seddi yn ôl canran y pleidleisiau maen nhw wedi'i hennill. Daw'r enw o'r ddihareb Gymraeg Y cyntaf i'r felin gaiff falu.

Defnyddir y system etholiadol 'y cyntaf i'r felin' heddiw ar gyfer ethol aelodau Tŷ'r Cyffredin Prydain, etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr, etholiadau i Gyngres yr Unol Daleithiau, ac ar gyfer etholiadau cenedlaethol mewn llawer o wledydd y Gymanwlad, megis Bangladesh, Botswana, India, Jamaica, Cenia, Malawi, Maleisia, Nepal, Nigeria, Pacistan, Singapôr, Wganda, Sambia a Simbabwe, a rhai y tu hwnt, megis Moroco a De Corea. Defnyddid y system hon ar gyfer etholiadau lleol yn yr Alban tan 2007, pryd y'i disodlwyd gan system y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]