Neidio i'r cynnwys

Steve Lamacq

Oddi ar Wicipedia
Steve Lamacq
Ganwyd16 Hydref 1965 Edit this on Wikidata
Bournemouth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Harlow College
  • The Ramsey Academy, Halstead Edit this on Wikidata
Galwedigaethtroellwr disgiau, newyddiadurwr, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.bbc.co.uk/6music/shows/steve_lamacq Edit this on Wikidata

Mae Steve Lamacq (ganed 16 Hydref 1965) yn newyddiaduriwr cerddoriaeth a DJ Seisnig, adnabyddir weithiau gan y ffugenwau Lammo (a roddwyd iddo gan John Peel) neu The Cat (oherwydd ei allu fel ceidwad gôl ym mhêl-droed). Mae yn gweithio ar gyfer y BBC ar sianeli Radio 1, BBC Radio 6 Music a hefyd BBC Radio 2 ar ddydd Mercher o 23:30-00:30 cyn rhaglen Janice Long.

Gyrfa Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed yn Bournemouth, cyn symyd i Hampshire. Mae ei deulu yn dod o Essex, tyfodd Steve i fyny ym mhentref Colne Engaine yn ardal Halstead. Dechreuodd gyrfa newyddiadurol fel is-ohebydd ar gyfer y West Essex Gazette, ar ôl astudio newyddiaduraeth yng Ngholeg Harlow, Essex. Dechreuodd Lamacq's fanzine o'r enw A Pack Of Lies tra'n ei arddegau.

Yn ystod ei gyfnod o weithio ar gyfer y New Musical Express, dechreuodd weithio fel DJ XFM, pan oedd dal yn orsaf radio pirate. Dechreuodd label recordio yn 1992 gyda Alan James a Tony Smith, sef Deceptive Records. Y band mwyaf llwyddiannus iddynt arwyddo oedd Elastica. Mae'r rhanfwyaf o'r gerddoriaeth ar y label yn rhy fath o pync-pop. Daeth Deceptive Records i ben yn 2001. Ysgrifennodd Lamacq hunangofiant, y teitl yw Going Deaf For A Living.

Yn 1991 roedd Lamacq, yn ddiymwybod iddo ef, yn rhan o un o achlysyron enwog roc Prydeinig, yn ystod cyfweliad ar ôl gig, yng Nganolfan Celfyddydau Norwich, gyda'r Manic Street Preachers, ar gyfer NME. Wedi i sawl cais gan Richey James Edwards i ddarbwyllo i Lamacq eu bod "for real" (roedd y Manics wedi bod yn gwneud datganiadau gwallgo i'r wasg), rhoddod Edwards i fynnu a cherfiodd 4 Real yn ei fraich gyda llafn rasal. Bu bron i'r cyhoeddusrwydd ei hun, lawnsio'r Manics i fyd y Byd Enwog. Trafodwyd y cyfweliad mewn cyfarfod olygyddol a recordwyd ar gyfer rhaglen ddogfen ar BBC Radio 5, "Sleeping With the NME" a ymddangosodd yn hwyrach ar ochr-B sengl Suicide Is Painless y Manics (Hwn hefyd oedd cân thema M*A*S*H).

Radio 1[golygu | golygu cod]

Rhwng 1993 a 1997 cyflwynodd Lamacq y rhaglen Evening Session gyda Jo Whiley, ac wedyn ar ei ben ei hun tan Rhagfyr 2002, pan ddaeth diwedd y rhaglen. Cymerodd Colin Murray ei le drost dro am chwe mis tan i gytundeb Zane Lowe ddod i ben gyda'r orsaf radio XFM yn Mehefin 2003, pan gymerodd ef y safle parhaol. Cyflwynodd Lamacq y rhaglen radio indie, Lamacq Live, pob prynhawn Llun tan 18 Medi 2006. Daeth y sioe i ben fel rhan o ail-ddyluniad rhaglenni Radio 1, er mwyn cyflwyno delwedd newydd ifengach ar gyfer y gwrandawyr. Dechreuodd Lamacq Live yn niwedd Mehefin 1998, a chymerodd Colin Murray ei le ar yr awyr gyda rhaglen newydd, ond mae Lamacq yn dal i gyflwyno rhaglenni dogfen ar gyfer yr orsaf a rhaglen goffa, noson John Peel. Mae hefyd yn cyflwyno rhaglen Radio 1, In New Music We Trust, pob nos Lun rhwng 9 a 10 o'r gloch. Rhwng yr un oriauu ar ddydd Mawrth, Mercher a dydd Iau mae Tim Westwood, Jo Whiley a Pete Tong yn cyflwyno. 'Darganfyddod' Steve y band indie tanddaearol, Pencil Toes.

BBC 6 Music / Radio 2[golygu | golygu cod]

Mae ei dudalen wê ar wefan y BBC yn disgrifio ei raglen Lamacq Live fel un o'r rhaglenni radio mwyaf Dylanwadus ym Mhrydain. Mae ganddo hefyd raglen ar orsaf digidol y BBC, 6 Music, ar pob brynhawn Sul, ond ers Ebrill 2005 mae hefyd wedi cyflwyno rhaglen dyddiol yn gynnar yn y prnhawn ar 6 Music, gan gymryd drosodd oddiar Andrew Collins, yma mae o ar yr awyr fyth. Ers Ebrill 2007, mae hefyd yn cyflwyno rhaglen wythnosol ar BBC Radio 2, pob dydd Mercher rhwng 11.30 a 12.30, ar y rhaglen hon mae'n chwarae ei ddewis ef o'r gerddoriaeth ac yn cyflwyno bandiau sydd wedi ymddangos yn diweddar i'r gwrandawyr.

Lamacq yn ffan o glwb pêl-droed Colchester United.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

  • [1] Archifwyd 2007-08-13 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Steve Lamacq - Lamacq Central
  • [2] Tudalen rhaglen BBC 6 Steve
  • [3] Tudalen Steve ar wefan y BBC
  • [4] Safle MySpace Steve ar gyfer bandiau newydd heb eu arwyddo
  • [5] Safle MySpace Steve
  • [6] Archif wê gwefan Deceptive Records
  • [7] Blog MP3 ar gyfery bandiau a ymddangosodd ar y rhaglen Evening Session o 1993-2002