Sgwrs:Arwyddion dwyieithog

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae yna erthyglau da ar y pwnc yn y wici Eidaleg (yn arbennig) a Sbaeneg, y Sbaeneg i raddau helaeth yn gyfieithiad o'r Eidaleg rwy'n meddwl. Mi geisiaf gyfieithu fesul tipyn - oes rhywun yn gallu helpu? Rhion 11:31, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Mae'r un Ffrangeg yn dda hefyd. Dwi'n fodlon cyfieithu/addasu'r deunydd am Ogledd Affrica, i ddechrau. Gwell i mi beidio wneud hynny am rwan rhag ofn i ni gael "gwrthdaro golygyddol"! Anatiomaros 16:37, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
ON A Ffrainc hefyd. Anatiomaros 16:41, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Diolch. Mi adawaf Ffrainc felly. Rhion 16:46, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Roeddwn i'n cael cymaint o flas ar chwilio ar fr: a gwefannau allanol am ddeunydd am Foroco fel dwi'n cael fy hun yn brin o amser heno, ond dwi'n gaddo gwneud tipyn o waith ar hyn fory, gobeithio. Anatiomaros 20:39, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Mae http://www.freetranslation.com/ yn gwefan dda- mae'n cyfieithu Ffrangeg i'r Saesneg yn dda. Dyma esiampl o safon y cyfieithu.
En Irlande du Nord le bilinguisme n'est pas officiel. Deux langues sont reconnues comme langues régionales: l'irlandais et le scots. On trouve de la signalisation bilingue ou trilingue selon les circonstances et la volonté des autorités.
In Northern Ireland bilingualism is not official. Two languages are recognized as regional languages: the Irishman and the scots. One finds bilingual signalization or trilingue according to the circumstances and authority will.
Nid yw'n berffaith ond gobeithio bydd hyn yn helpu! Rhys Thomas 17:22, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Mae'n well o lawer na'r cyfieithiadau ar-lein i'r Gymraeg, beth bynnag! Ond mae'n haws cyfieithu'n syth o'r Ffrangeg na chyfieithu cyfieithiad i'r Saesneg sy'n llai na pherffaith. Anatiomaros 18:35, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Arwydd ddwyieithog?[golygu cod]

Drapia. Fedran ni gyfiawnhau'r enw lluosog yn y teitl? Dwi'n gobeithio! Mae'r Saesneg "Bilingual sign" yn swnio'n chwithig i mi fel y mae Arwydd ddwyieithog, hefyd. Llywelyn2000 17:19, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Hmm, ie. Mae'r rhan fwyaf o'r ieithoedd eraill yn medru osgoi'r dewis trwy ddefnyddio Señalización neu gyffelyb. Rhion 17:30, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
"Signage" fyddai'r dewis gorau ar en: hefyd. 'Arwyddion' yw'r peth agosaf at hynny yn y Gymraeg, dwi'n meddwl. Anatiomaros 18:31, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Dolen wallus[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 02:28, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]