Rheilffordd Gwili

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Ager Gwili
Gwili Railway

4566 ym ymweld ym mis Hydref 2008
Ardal leolCymru Cymru
TerminwsBronwydd Arms
Gweithgaredd masnachol
EnwRheilffordd Ager y Gwili
Maint gwreiddiol7 tr 0 14 modf (2,140 mm)
Yr hyn a gadwyd
Gweithredir ganCwmni Reilffordd Ager y Gwili Cyf.
Gorsafoedd3
Hyd3.5 mile (5.6 km)
Maint 'gauge'1,435 mm (4 ft 8 12 in)
Hanes (diwydiannol)
1860Agorwyd
1881Daethpwyd yn rhan o Reilffordd Great Western
1973Caewyd
Hanes (Cadwraeth)
1978Cymerwyd drosodd gan y gwmni, a dechreuwyd gwaith atgyfodi
1987{{{events}}}
1988Cyrhaeddwyd Llwyfan Cerrig
2001Ail-agoriad yr estyniad at Danycoed
2002Dechreuwyd estyniad at Gorsaf Reilffordd Gogledd Caerfyrddin
2009Prynwyd safle'r orsaf Reilffordd Llanpumpsaint
PencadlysBronwydd Arms

Mae Rheilffordd Gwili yn rheilffordd ager led safonol ym mhentref Bronwydd 3 milltir i’r gogledd o Gaerfyrddin. Enwyd y rheilffordd ar ôl Afon Gwili. Ei hyd yw 2½ milltir: rhwng Bronwydd Arms a Danycoed gan dramwyo drwy diroedd amaeth ac elltydd llethrog, coediog.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae’r Rheilffordd yn dilyn y brif lein wreiddiol rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth a ffurfiai unwaith ran o gyswllt di-dor rhwng Gogledd a De Cymru. Wedi’i hadeiladu ar y dechrau gan y Carmarthen & Cardigan Railway Company, gyda’i led llydan 7'0¼", a’r Manchester & Milford Railway Company, fe brynwyd y lein ymhen amser gan y Great Western Railway. Cludai deithwyr a chynhyrchion lleol – gwlân, da byw, llaeth a choed – cyn iddi fynd yn ysglyfaeth i ddiwygiadau yr Arglwydd Beeching. Daeth trenau teithwyr i ben ym mis Rhagfyr, 1964, ac ymadawodd y trên llaeth olaf ym mis Medi, 1973.

Ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Gwili ym mis Ebrill, 1975, a phrynodd y cwmni 8 milltir o wely trac rhwng Cyffordd Abergwili a Llanpumpsaint. Rhedodd y trên teithwyr cyntaf yn 1978 i arhosfan newydd ei hadeiladu yng Nghwmdwyfran. Cymerwyd y trac dros Afon Gwili trwy ddau estyniad byr pellach i orsaf newydd o'r enw Llwyfan Cerrig.

Yn 2001 agorwyd estyniad pellach hyd at orsaf newydd Danycoed. Mae gwaith yn symud yn ei flaen i ymestyn y lein tua’r de i gyfeiriad cyn-Gyffordd Abergwili a hynny yw’r safle arfaethedig i orsaf newydd yn gyfagos i ffordd osgoi Dwyrain Caerfyrddin. Mae Cwmni Rheilffordd Gwili wedi prynu 3·6 erw o dir ar bwys y ffordd osgoi gyda’r bwriad o adeiladu maes parcio ar gyfer ceir a bysus. Cynllunir adeiladu caffi, amgueddfa fach a sied geotsis yn safle yr orsaf arfaethedig.

Mae’r Rheilffordd yn gweithredu gwasanaethau rhwng 80-90 diwrnod y flwyddyn ac yn cludo dros 20,000 o deithwyr bob blwyddyn ac yn ogystal â’i gwasanaethau teithwyr arferol mae’n trefnu digwyddiadau arbennig poblogaidd iawn fel ‘Diwrnod Allan Gyda Tomos’, Trenau Hudol Siôn Corn, trenau cinio dydd Sul, trenau noson jazz, siartrau ffotograffig a chyrsiau sy’n cynnig y profiad o yrru injan stêm.

Rheilffordd Gwili
 
Unused tunnel continuation backward
 ar ôl Pencader
 
Unknown BSicon "extSTRe"
 Twnnel Pencader (985 llath)
 
Unknown BSicon "exBHF"
 Llanpumsaint
 
Unknown BSicon "exBRÜCKE2"
 
 
Unknown BSicon "WASSER+l" Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Transverse water
 
 
Unknown BSicon "WASSERl" Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Unknown BSicon "WASSER+r"
 
 
Transverse water Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Water straight and to right
 
 
Water transverse and ahead Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Unknown BSicon "WASSER+r"
 Afon Duad
 
Water straight and to right Unknown BSicon "exBHF" Water
 Conwil
 
Unknown BSicon "WASSER+l" Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Water straight and to right
 
 
Unknown BSicon "WASSERl" Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Unknown BSicon "WASSER+r"
 Afon Gwili
 
Unknown BSicon "WASSER+l" Unknown BSicon "exWBRÜCKE1" Water straight and to right
 
 
Water Unknown BSicon "ENDExa"
 
 
Water Stop on track
 Arosfa Danycoed
 
Water Station on track
 Llwyfan Cerrig
 
Unknown BSicon "WASSERl" Small bridge over water Unknown BSicon "WASSER+r"
 
 
Underbridge Water
 
 
Station on track Water
 Bronwydd Arms
 
Level crossing Water
 B4301
 
Level crossing Water
 
 
Unknown BSicon "ENDExe" Water
 
 
Unknown BSicon "exSKRZ-Mu" Water
 Ffordd Dolgwili
 
Unknown BSicon "exBHF" Unknown BSicon "WASSERl"
 Gorsaf newydd arfaethedig
 
Unknown BSicon "tABZg+l" Unknown BSicon "extSTRq" Unknown BSicon "extCONTfq"
 Cyffordd Abergwili
 
Unknown BSicon "extSTR"
 
 
Unknown BSicon "KBHFxa"
 Caerfyrddin
 
Unknown BSicon "CONTfq" Transverse track Unknown BSicon "ABZqlr" Transverse track Unknown BSicon "CONTgq"
  Rheilffordd De Cymru
Bronwydd Arms

Locomotifau[golygu | golygu cod]

Stêm[golygu | golygu cod]

Rhif ac enw Disgrifiad Hanes a statws presennol Lifrai Perchennog Llun
2201 Victory 0-4-0ST Cwmni Andrew Barclay Adeiladwyd ym 1945. Atgyweirir.
3879 Haulwen 0-6-0ST 'Austerity' Cwmni Hunslet Adeiladwyd yn Ffowndri Vulcan ym 1945. Ailadeiladwyd gan Gwmni Hunslet ym 1961. Gweithredol.[1] ~
7058 Olwen 0-4-0ST Cwmni Robert Stephenson a Hawthorns Adeiladwyd ym 1942. Atgyweirir boeler. lliwiau GWR. Defnyddir fel 'Percy'r injan bach' yn nigwyddiadau Tomos y Tanc.[2]
71516 Welsh Guardsman 0-6-0ST Adran Rhyfel Adeiladwyd gan Gwmni Robert Stephenson a Hawthorns ym 1944
Phoenix 0-6-0ST Adran Rhyfel Adeiladwyd gan Gwmni Robert Stephenson a Hawthorns ym 1944. Yn storfa, yn disgwyl am atgyweirio. ~
3829 Locomotif 'Austerity' Adeiladwyd ym 1955 gan Gwmni Hunslet. Cynt o Reilffordd Cwm Tawe. Yn storfa yn Bronwydd Arms, disgwyl am atgyweirio boeler. ~
1345; Mond Nickel Rhif 1. Cynt o Reilffordd Cwm Tawe. Yn storfa yn Bronwydd Arms, disgwyl am atgyweirio blwch tân. ~
450 Dosbarth O1 0-6-2T Rheilffordd Cwm Taf Adeiladwyd ym 1897. Ar fenthyg o Amgueddfa Genedlaethol Rheilffordd, Efrog. Arddangosir. ~

Diesel[golygu | golygu cod]

Rhif ac enw Disgrifiad Hanes a statws presennol Lifrai Perchennog Llun
61347,59508,51401 Dosbarth 117 BR uned 3 cerbyd
D2178 Dosbarth 03 BR Gweithredol
27658 Adeiladwyd gan Gwmni North British ar gyfer British Steel, Glandŵr. ~
27878 Adeiladwyd gan Gwmni North British ar gyfer British Steel, East Moor, ac wedyn gwaith tun Felindre. ~
207103 Adeiladwyd gan Cwmni Ruston a Hornsby. Defnyddiwyd gan British Benzol wrth eu ffyrnau golosg. ~
393302 Adeiladwyd gan Cwmni Ruston a Hornsby ym 1955. Defnyddiwyd gan Gwmni Aluminium Wire a Cable, Abertawe. ~

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Phil Trotter (2008-04-05). "0-6-0ST 'Haulwen', adeiladwyd yn Ffowndri Vulcan, wrth Lwyfan Cerrig". Cyrchwyd 2008-05-04.[dolen marw]
  2. Phil Trotter (2008-04-05). "RSH 0-4-0ST (rhif 7058/1942) 'Olwen'". Cyrchwyd 2008-05-04.[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]