Neidio i'r cynnwys

Plas Teg

Oddi ar Wicipedia
Plas Teg
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadYr Hôb Edit this on Wikidata
SirYr Hôb Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr103.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1297°N 3.0672°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Plasty Jacopeaidd rhwng pentrefi'r Hôb a Phontblyddyn, rhwng yr Wyddgrug a Wrecsam, Sir y Fflint yw Plas Teg a godwyd gan Sion Trevor (1563–1630) tua 1610.[1]

Roedd Sion Trevor (neu John Trevor yn ddiweddarach yn ei oes) yr ail fab hynaf i Sion Trefor (m. 1589), Trefalun, y ceir cofeb alabaster iddo yn Eglwys Gresffordd. Ar y gofeb honno, disgrifir ei blant, a dyma'r disgrifiad o Sion:

Golygwr ar Lynges ardderchawg y Frenhines, yr hwn a briododd Marged merch Hywel Trevanian o (?)arihays yn Gernyw, Ysgweier, vab Syr Hyw Trevanian, Marchog ar ol ei dad.

Ceir cerddi am faenordy cyharach ar y safle hwn gan feirdd y 15g. Dengys arolwg Robert Eggerley o arglwyddiaeth y Waun yn 1391-2 fod tiroedd Ednyfed Gam wedi eu rhannu rhwng ei etifeddion a bod Dafydd ab Ednyfed Gam yn berchen ar dir yn nhrefgordd Bryncunallt a Phlas Teg yn yr Hôb, "lle y byddai ei orwyr, Robert Trefor ap Siôn Trefor, yn trigo yn y dyfodol".[2]

Hwn oedd prif gartref Sion, a defnyddiai'r tŷ'n aml i groesawu gwahoddedigion yno, yn enwedig rhai o brif gyfreithwyr Llundain. Fel ei frodyr, roedd yn Bengryniad pybyr. Bu farw yn 1629 a Marged ei wraig ar ei ôl; ddwy flynedd wedi hynny anrhaethwyd yr adeilad pan ymosododd y Cadfridog Brereton a Phengryniaid eraill ar yr ardal.

Ni newidiwyd llawer ar Blas Teg hyd at ddiwedd y 18g pan ychwanegwyd rhai adeiladau allanol gan y Fonesig Jane Dacre. Tua 1823-4 gweddnewidiwyd y lle gan Charles Blayney Trevor-Roper gyda chryn newidiadau strwythurol, ond gadw'r hen naws.[3]

Oriel[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hayward, Will. "These houses helped shape Wales' history but are now crumbling". Wales Online.
  2. gutorglyn.net; adalwyd 12 Chwefror 2017.
  3. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 12 Chwefror 2017.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • E Hubbard, Clwyd, 1986, pp376–377;
  • RCAHMW, Sir y Fflint, 1912, p48 (133);
  • M Girouard, erthygl yn Country Life, 19 Gorffennaf 1962;
  • P Smith, Houses of the Welsh Countryside, 1988, tt225-229, fig 133, pl 72, mapiau 49, 53;