Neidio i'r cynnwys

Philip Jones Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Philip Jones Griffiths
Ganwyd18 Chwefror 1936 Edit this on Wikidata
Rhuddlan Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 2008 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffotograffydd, ffotografydd rhyfel, ffotonewyddiadurwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHenri Cartier-Bresson Edit this on Wikidata
Gwobr/auLucie Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://philipjonesgriffiths.org/ Edit this on Wikidata
Bachgen yn dryllio piano; c. 1961. LlGC
Sifiliad benywaidd o Fietnam; c. 1967. LlGC

Ffotograffydd o Gymro oedd Philip Jones Griffiths (18 Chwefror 193618 Mawrth 2008) a aned yn Rhuddlan. Roedd yn enwog drwy'r byd am ei luniau o Ryfel Fietnam. Mae'r casgliad cyfan wedi'i roi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Astudiodd i fod yn fferyllydd yn Lerpwl, a thra'n gweithio yn Llundain, bu'n ffotograffydd rhan-amser gyda phapur newydd y Guardian. Yn 1961 daeth yn ffotograffydd llawrydd llawn amser. Aeth i Algeria yn 1962 i dynnu lluniau yn ystod rhyfel annibyniaeth y wlad gyda Ffrainc. Yna aeth i ganol Affrica, ac wedyn i Asia, gan dynnu lluniau yn Fietnam rhwng 1966 a 1971 ar gyfer asiantaeth lluniau Magnum.

Tra yn Fietnam tynnodd luniau yn cofnodi'r rhyfel yno. Oherwydd natur ei luniau, roedd Magnum yn cael trafferth gwerthu ei luniau i bapurau newydd yn America, ond llwyddodd Griffiths i gael sgŵp gyda llun o Jackie Kennedy (gwraig John F. Kennedy) ar wyliau yn Cambodia gyda chyfaill o ddyn. Fe wnaeth yr incwm o luniau fel hyn ei alluogi i barhau i dynnu lluniau'n cofnodi'r rhyfel a chafodd y rhain eu cyhoeddi mewn llyfr o'r enw Vietnam inc. yn 1971. Yn ogystal â bod yn un o'r cofnodion mwyaf manwl o unrhyw ryfel, mae'r llyfr hefyd yn gofnod o ddiwylliant Fietnam dan warchae. Chwaraeodd y llyfr hwn ran flaenllaw yn crisialu barn gyhoeddus am ddoethineb ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Fietnam, ac fe gafodd ei ailgyhoeddi yn 2001 gyda rhagair gan Noam Chomsky.[1]

Yn 1973 bu'n cofnodi rhyfel Yom Kippur a gweithiodd yn Cambodia rhwng 1973 a 1975. Symudodd i Efrog Newydd yn 1980 i fod yn gadeirydd Magnum, a bu'n gadeirydd am 5 mlynedd, sef y cyfnod hiraf i unrhyw un fod yn gadeirydd Magnum hyd yma.

Yn ystod ei yrfa aeth aseiniadau Griffiths ag ef i 120 o wledydd. Bu'n gweithio a thynnu lluniau ar gyfer storiau gwahanol fel Bwdhaeth yng Nghambodia, sychder yn India, tlodi yn Texas, ail-wyrddu Fietnam, ac ôl-effeithiau Rhyfel y Gwlff yn Kuwait.

Ymysg ei lyfrau eraill mae Dark Odyssey, ble mae Griffiths yn ystyried y berthynas anghyfartal rhwng technoleg a'r ddynoliaeth, a hefyd y llyfr Agent Orange, sy'n olrhain sgîl-effeithiau hirhoedlog defnydd lluoedd America o'r cemegyn Agent Orange ar Fietnam.

Arddangosfeydd[golygu | golygu cod]

  • 2015 Philip Jones Griffiths: A Welsh Focus on War and Peace - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • 2006 Fifty Years on the Frontline - Southeast Museum of Photography, Daytona, UDA
  • 2005 Fifty Years of Frontline - Denise Bibro Fine Art, Efrog Newydd, UDA
  • 2004 Agent Orange - Side Photographic Gallery, Newcastle upon Tyne
  • 1996 Dark Odyssey - Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
  • 1992 RetrospectiveMadrid, Sbaen
  • 1990 Retrospective - Photofest, Houston, Texas, UDA
  • 1985 Magnum Concert - Musée d’Art et Histoire, Fribourg, Y Swistir
  • 1985 Magnum Photographs: 1932-1967 - Pace/MacGill Gallery, Efrog Newydd, UDA

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • Vietnam, Inc. (Efrog Newydd: Collier Macmillan, 1971; Llundain: Phaidon, 2001)
  • Bangkok Yr Iseldiroedd (Amsterdam: Time-Life, 1979)
  • Philip Jones Griffiths: una vision retrospectiva (1952-1988) (Consorcio para la Organizacion de Madrid Capital Europea de la Cultura, Sbaen, 1992)
  • Dark Odyssey (Efrog Newydd: Aperture, 1996)
  • Agent Orange: Collateral Damage in Vietnam (Llundain: Trolley, 2004)
  • Vietnam at Peace (Llundain: Trolley, 2005)
  • Recollections (Llundain: Trolley, 2008)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]