Neidio i'r cynnwys

Mosul

Oddi ar Wicipedia
Mosul
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,792,000 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethlist of Emirs of Mosul Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPhiladelphia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNineveh Governorate Edit this on Wikidata
GwladBaner Irac Irac
Arwynebedd180 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr223 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tigris Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.37°N 43.12°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraethlist of Emirs of Mosul Edit this on Wikidata
Map

Mae Mosul (Arabeg: الموصل‎ al-Mawṣil, Cyrdeg: Mûsil, Syrieg: ܢܝܢܘܐ Nîněwâ, Tyrceg: Musul) yn ddinas yng ngogledd Irac yn agos i'r ffin â Twrci a phrifddinas talaith Ninawa. Saif ar lannau Afon Tigris, sydd â phump o bontydd arni, tua 396 km (250 milltir) i'r gogledd-orllewin o Baghdad. Daw enw'r deunydd lliain mwslin o enw'r ddinas, a oedd yn ganolfan bwysig i'r diwydiant mwslin am ganrifoedd. Cynnyrch arall o bwys hanesyddol yw marmor Mosul.

Yn 1987, roedd ganddi boblogaeth o 664,221; yr amcangyfrif yn 2002 oedd 1,739,800. Mosul yw trydedd ddinas fwyaf Irac, ar ôl Baghdad a Basra.

O 1534 hyd 1918 bu'n ganolfan masnach bwysig yn yr Ymerodraeth Ottoman.

Mae'n un o brif ganolfannau'r diwydiant olew yn Irac.

Tua 30 km i'r de-ddwyrain o'r ddinas ceir adfeilion dinas hynafol Nimrud, prifddinas Assyria, un o'r safleoedd archaeolegol pwysicaf yn y Dwyrain Canol.

Afon Tigris yn llifo trwy Mosul

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Irac. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.