Neidio i'r cynnwys

Mark Roberts

Oddi ar Wicipedia
Mark Roberts
Ganwyd3 Tachwedd 1967 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgitarydd, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata

Cerddor Cymreig yw Mark Roberts (ganwyd 3 Tachwedd 1967) sy'n adnabyddus am fod yn aelod o fandiau Y Cyrff a Catatonia.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Roberts yn Llanrwst a bu'n canu a chwarae'r gitâr ers ei arddegau gyda band lleol Y Cyrff. Ar ôl cyfarfod Cerys Matthews fe ffurfiodd Catatonia ynghyd â Paul Jones.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd yn honni am nifer o flynyddoedd ei fod wedi taro ar draws Matthews yn clera yng Nghaerdydd ac wedi cynnig llinyn gitâr iddi,[2] a ddatblygodd i'r ddau ffurfio band, ond mewn gwirionedd roedden nhw mewn perthynas tymor hir pan ffurfiwyd y band. Roedd stori'r llinyn wedi ei greu gan ei swyddog cyhoeddusrwydd. Fe wnaeth ei gwahaniad ddod i ben a'i phartneriaeth ysgrifennu, ac o hynny ymlaen Roberts oedd yn bennaf gyfrifol am ran fwyaf o eiriau caneuon y band.

Yn Catatonia, roedd Roberts yn rhannu'r gwaith ysgrifennu caneuon gyda Matthews, wrth chwarae gitâr a chanu llais cefndir. Ar ôl i Gatatonia ddod i ben, fe wnaeth peth gwaith cynhyrchu recordiau, ac ynghyd â Paul Jones fe ffurfiodd Sherbet Antlers (wedi ei ymuno gyda John Griffiths a Kevs Ford o Llwybr Llaethog).

Aeth Roberts a Jones ymlaen i ffurfio band Y Ffyrc, sy'n anagram o Y Cyrff. Erbyn 2012 roedd Roberts wedi ffurfio band The Earth gyda Dionne Bennett (gynt o The Peth) a Dafydd Ieuan (o'r Super Furry Animals).

Yn 2018 roedd Roberts wedi dechrau cynllunio prosiect dan yr enw artist Mr a'r albwm Oesoedd.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Biography: Catatonia. Allmusic. Adalwyd ar 29 Mai 2010.
  2. "North Wales: Ca - Cl | link2wales.co.uk". link2wales.co.uk. Cyrchwyd 2015-12-26.
  3. https://selar.cymru/2018/mark-cyrff-i-ryddhau-albwm-unigol/