Neidio i'r cynnwys

Loch Coiribe

Oddi ar Wicipedia
Loch Coiribe
Mathllyn, Ardal Gadwraeth Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGaillimh Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd176 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.4667°N 9.2833°W Edit this on Wikidata
Hyd42 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Loch Coiribe (Saesneg: Lough Corrib) yw llyn mwyaf Gweriniaeth Iwerddon a'r ail-fwyaf ar ynys Iwerddon ar ôl Lough Neagh. Saif yng ngorllewin y wlad, gydag Afon Coiribe yn ei gysylltu a'r môr ger Galway. Mae ganddo arwynebedd o 200 km².

Mae Loch Coirib yn deillio o Loch nOirbsean, wedi ei enwi ar ôl Orbsen Mac Alloid, enw arall ar Manannán Mac Lir, duw y môr. Gelwir ef hefyd yn An Choirib.

Adeiladwyd camlas gyntaf Iwerddon yma yn y 12g, i gysyllru'r llyn a'r môr gel Galway. Yn 2007, canfuwyd niferoedd uchel o Cryptosporidium yn ei ddyfroedd, a effeithiodd ar gyflenwad dŵr dinas Galway. Cyhoeddwyd y llyn yn Safle Ramsar yn 1996.