Neidio i'r cynnwys

Julie, ou la Nouvelle Héloïse

Oddi ar Wicipedia
Julie, ou la Nouvelle Héloïse
ArddullNofel epistolaidd, ffuglen, naratif Edit this on Wikidata
Tudalen teitl yr argraffiad cyntaf

Nofel Ffrangeg ar ffurf cyfres o lythyron rhwng cymeriadau, neu nofel epistolaidd, gan Jean-Jacques Rousseau ydyw Julie, ou la Nouvelle Héloïse. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn Amsterdam yn 1761 dan y teitl Lettres de deux amans, habitans d'une petite ville au pied des Alpes. Er i’r nofel wefreiddio darllenwyr Ewrop pan ymddangosodd yn 1761, gan newid bywydau a ffasiynau, a’n hagewdd tuag at natur, am byth, ychydig iawn o ddarllen sydd arni heddiw, er y gwelir crybwll ei theitl yn fynych. Neges Rousseau yw bod trigolion y wlad yn gwbl wahanol i bobl y dref. Dywed yn blaen yn ei ragymadrodd "ffowch o'r trefi".

Cynllun[golygu | golygu cod]

Cnewyllyn y plot yw bod Julie, fel Eloisa gynt, yn cwympo mewn cariad â’i thiwtor Saint-Preux, ond mae tad Julie yn gwrthod iddynt briodi oherwydd nad yw Saint-Preux yn uchelwr. Felly mae Julie yn priodi Wolmar, ac yn byw bywyd rhinweddol a duwiol gyda’i gwr ar ystad yn Clarens, yn magu ei phlant, yn ffurfio syniadau am ‘natur’ ac addysg, yn gorychwilio bywyd a gwaith yr ystad gyda’i gwr, ac yn creu gardd arbennig. Cawn wybod am hyn oll trwy’r disgrifiadau o’r ystad, o’r ardd, ac o fywyd Julie, yn llythyron Saint-Preux, sydd wedi dychwelyd i’r ardal wedi sawl blwyddyn o deithios, ac yn ymweld â Clarens. Mewn un llythyr (Rhan 4 llythyr 10) ceir disgrifiad manwl o sut mae’r ystad yn Clarens yn gweithio: manylion y trefniadau, yn amaethyddol, yn economaidd. Pwysleisir yr arloesi, h.y. arbrofi amaethyddol a hefyd y ffyrdd o drin a gofalu ar ôl staff. E.e. yn Clarens cynigir gwobr wythnosol i’r gweithwyr am waith caled. Maent yn derbyn tâl arferol, ond hefyd ychwaneg o arian am waith da, ynghyd â chynyddiad blynyddol [increment]. Yn Clarens mae’r meistri yn arwain trwy esiampl. Yn y llythyr nesaf ceir disgrifiad enwog o ardd Julie, ei ‘Elysée’, ei hoff le. Dysgwn mai Julie yn unig fu’n gyfrifol am y gwaith i gyd (gydag ychydig o arddwyr), er bod y canlyniad yn edrych yn gwbl naturiol, yn ôl honiad Saint-Preux. Ateb Julie yw ‘Natur wnaeth pob peth, ond o dan fy ngorychwiliaeth’. Â Julie ymlaen i esbonio iddi ddewis planhigion brodorol, ac iddi daflu planhigion dringo fel garlant o goeden i goeden. Er mwyn rhoi’r argraff bod dwr yn ffrydio’n naturiol drwy’r ardd, roedd hi wedi dargyweirio’r dwr o’r ffynon ffurfiol yng ngardd ei thad. A thrwy hyn mae’n tanseilio ffurfioldeb gardd ei thad, a thraddodiad garddio’r Ffrancwyr. Mae’r coed yn ei gardd yn llawn o adar, oherwydd plennir cnydau yn unswydd er mwyn denu’r adar sy’n llenwi’r ardd a’u trydar, ac mae Julie yn darparu deunydd adeiladu nythod er mwyn eu cadw yno. Meddai Saint-Preux am y lle: ‘Nid yw ôl llaw’r garddwr i’w weld’. Pwysleisir hefyd bwysigrwydd hunan-gynhaliaeth: dylid bwyta bwyd lleol, syml, a chynhyrchu gwin a gwlân. Ond trasiedi sy’n cloi’r nofel, wrth i Julie farw wedi iddi neidio i’r llyn i achub un o’i phlant, ac wrth inni ddeall nad oedd hi, wedi’r cyfan, wedi concro ei theimladau tuag at Saint-Preux.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]