Neidio i'r cynnwys

Jennifer Saunders

Oddi ar Wicipedia
Jennifer Saunders
Ganwyd6 Gorffennaf 1958 Edit this on Wikidata
Sleaford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama
  • Ysgol Sant Pawl, Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor, digrifwr, sgriptiwr, hunangofiannydd, athro Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAbsolutely Fabulous, Shrek 2 Edit this on Wikidata
PriodAde Edmondson Edit this on Wikidata
PlantElla Edmondson, Beattie Edmondson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Cymdeithas Academi BAFTA Edit this on Wikidata

Digrifwr, sgriptiwr, actores a chantores Seisnig ydy Jennifer Jane Saunders (ganed 6 Gorffennaf 1958). Mae hi wedi ennill dwy wobr BAFTA, Gwobr Emmy Rhyngwladol, Gwobr Gomedi Brydeinig, Gwobr Gŵyl Adloniant Ysgafn Rode d'Or, dwy wobr y Writers' Guild of Great Britain Awards, a Gwobr Peoples Choice.

Daeth Saunders i amlygrwydd yn ystod y 1980au a dechrau'r 1990au pan oedd yn aelod o The Comic Strip wedi iddi raddio o'r Central School of Speech and Drama. Ynghyd â'i phartner comedi Dawn French, ysgrifennodd ac actiodd yn eu sioe sgetsys, French & Saunders, a derbyniodd glod rhyngwladol am chwarae'r brif rhan yng nghomedi sefyllfa'r BBC Absolutely Fabulous.

Mae hi hefyd wedi ymddangos fel gwestai yn y comedïau sefyllfa Americanaidd Roseanne a Friends, ac enillodd y People's Choice Award Americanaidd am leisio rhan y Tylwyth Teg creulon yn ffilm animeiddiedig 'DreamWorks' Shrek 2. Yn fwy diweddar, ysgrifennodd ac actiodd yn Jam & Jerusalem a The Life and Times of Vivienne Vyle.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]