James Spinther James

Oddi ar Wicipedia
James Spinther James
GanwydEbrill 1837 Edit this on Wikidata
Tal-y-bont Edit this on Wikidata
Bu farw5 Tachwedd 1914 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata

Hanesydd, llenor ac emynydd Cymreig oedd James Spinther James (Ebrill 18375 Tachwedd 1914), y cyfeirir ato gan amlaf fel Spinther. Mae'n adnabyddus yn bennaf fel "hanesydd y Bedyddwyr Cymreig".[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd yn frodor o blwyf Tal-y-bont, Ceredigion, lle y'i ganed yn 1837. Bu'n fugail ac yn borthmon yn ei sir enedigol cyn symud i Aberdâr, Morgannwg yn 1854 i weithio yn y pyllau glo. Cafodd ei ordeinio'n weinidog gyda'r Bedyddwyr yn 1861 a daeth yn adnabyddus fel pregethwr ac fel areithydd ar bynciau gwleidyddol. Bu farw yn 1914.[1]

Ei brif waith fel hanesydd a llafur mawr ei oes yw'r pedair cyfrol ar hanes y Bedyddwyr yng Nghymru a gyhoeddwyd rhwng 1892 a 1907. Fe'i gwerthfawrogir am ei iaith a mynegiant yn ogystal â'i manylder hanesyddol. Cyfansoddodd emynau yn ogystal â chyfrannodd nifer o erthyglau i'r cylchgronau Cymraeg.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Hanes y Bedyddwyr yng Nghymru (4 cyfrol; 1892-1907)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru