Neidio i'r cynnwys

Grwst

Oddi ar Wicipedia
Grwst
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Cysylltir gydaTrillo, Deiniol Edit this on Wikidata
LlinachUrien Rheged Edit this on Wikidata

Sant Cymreig cynnar oedd Grwst (bl. diwedd y 6g). Mae'n nawddsant plwyf Llanrwst yn Sir Conwy, gogledd Cymru. Mae peth amryfusedd ynglŷn â'i enw cywir: cyfeirir ato hefyd fel Crwst, Gwrwst a Gorwst.[1] Mae Eglwys Sant Grwst, eglwys plwyf Llanrwst, wedi ei chysegru iddo.[1]

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Eglwys Sant Grwst

Ychydig a wyddys am Grwst. Roedd yn sant Celtaidd o'r 6g ac yn ddisgynnydd i un o linachau brenhinol pwysicaf yr Hen Ogledd. Yn ôl yr achau traddodiadol a geir yn y testun Bonedd y Saint, roedd yn fab i Gwaith Hengaer, un o ddisgynyddion Urien Rheged a Coel Hen, a'i fam oedd Euronwy ferch Clydno Eiddin.[1]

Yn ôl un traddodiad, Crwst a'i gyd-seintiau Trillo a Deiniol a ardystiodd rodd o dir i Sant Cyndeyrn gan y brenin Maelgwn Gwynedd[2], ond roedd Maelgwn yn teyrnasu cenhedlaeth neu ddwy o flaen cyfnod Crwst.

Roedd cerflun pren o Sant Grwst yn eglwys Llanrwst hyd at gyfnod y Diwygiad Protestannaidd pan gafodd ei ddinistrio gan Brotestaniaid selog (gweler hefyd Derfel).[2]

Gŵyl mabsant: 1/2 Rhagfyr yn wreiddiol; 11 Rhagfyr ers newid y calendr yn 1752.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Eglwys Sant Grwst a Chapel Gwydir[:] Taith Trwy Hanes (Prosiect Drysau Cysegredig, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy)
  2. 2.0 2.1 T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]