Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru

Oddi ar Wicipedia
Etholaethau a rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru
Categori Etholaeth
Lleoliad Cymru
Crëwyd gan Deddf Llywodraeth Cymru 1998
Crëwyd 12 Mai 1999; 25 o flynyddoedd yn ôl (1999-05-12)
Nifer 40 etholaeth
5 rhanbarth (ar ôl 2021)
Llywodraeth Senedd
Llywodraeth Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Defnyddir etholaethau a rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru i ethol Aelodau o'r Senedd (AS), a'u defnyddir mewn rhyw ffurf ers etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Cyflwynwyd ffiniau newydd ar gyfer yr etholiad yn 2007 ac ar hyn o bryd cynhwysant bedwar deg etholaeth a phum rhanbarth. Y pum rhanbarth etholiadol yw: Canol De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Dwyrain De Cymru, Gogledd Cymru, a Gorllewin De Cymru, gyda'r pedwar deg etholaeth a restrir isod.[1] Digwyddodd yr etholiad diwethaf yn 2021.

Grwpir etholaethau'r Senedd i mewn i ranbarthau etholiadol sy'n cynnwys rhwng saith a naw etholaeth. Defnyddir system aelod ychwanegol i ethol pedwar Aelod ychwanegol o'r Senedd o bob rhanbarth, ar ben yr ASau a etholir gan yr etholaethau. Seiliwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol ar yr etholaethau seneddol Ewropeaidd cyn 1999. Ym mhob etholiad cyffredinol o'r Senedd, mae gan pob etholydd ddwy bleidlais, un bleidlais etholaethol ac un bleidlais restr pleidiau ranbarthol. Mae pob etholaeth yn ethol un Aelod trwy'r system 'cyntaf i'r felin', a llenwir seddi ychwanegol y Senedd o'r rhestrau pleidiau caeedig, o dan ddull D'Hondt, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau, i greu rhywfaint o gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer pob rhanbarth. Ar y cyfan, etholir y chwe deg Aelod o'r Senedd o'r pedwar deg etholaeth a'r pum rhanbarth etholiadol, gan greu Senedd o bedwar deg AS etholaethol a dau ddeg AS ychwanegol. Cynrychiolir pob etholwr gan un aelod etholaethol a phedwar aelod rhanbarthol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlu[golygu | golygu cod]

Ar ôl y refferendwm ar ddatganoli i Gymru yn 1997, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i etholaethau a'i rhanbarthau etholiadol gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Dywedodd adran 2 o'r ddeddf taw'r etholaethau ar gyfer y Cynulliad fu'r un etholaethau a ddefnyddir ar gyfer etholiadau i Senedd y Deyrnas Unedig.[2] Creodd yr un ddeddf y pum rhanbarth a ddefnyddiai'r un ffiniau a'r pump etholaeth seneddol Ewropeaidd yng Nghymru a nodwyd gan Orchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994.[3] Defnyddir yr un rhanbarthau etholiadol o hyd, er y dilëwyd y pump etholaethau seneddol Ewropeaidd a'u disodli gan etholaeth Cymru-gyfan, ac ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Ond digwyddodd newidiadau bach i ffiniau'r rhanbarthau oherwydd newidiadau i'r etholaethau.

Newid ffiniau[golygu | golygu cod]

Yn 2006, gweithredwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Atgyfnerthodd y ddeddf y cysylltiad rhwng etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau seneddol, a bod yna bum rhanbarthau etholiadol.

Diffiniodd Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006 y ffiniau newydd ar gyfer yr etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol.[4]

Dileodd y gorchymyn dair etholaeth (Caernarfon, Conwy, a Meirionydd Nant Conwy), a chrëwyd tair etholaeth newydd i'w disodli (Aberconwy, Arfon, a Dwyfor Meirionydd). Cafodd naw etholaeth addasiadau "sylweddol" i'w ffiniau gan gynnwys y trosglwyddiad o fwy na 3,000 o drigolion rhwng yr etholaethau. Cafodd wyth etholaeth arall addasiadau i'w ffiniau gan arwain at y trosglwyddiad o lai na 3,000 o drigolion rhwng pob etholaeth, a chafodd pedair arall fân addasiadau a arweiniodd at drosglwyddiadau bach o drigolion rhwng etholaethau. Ni chafodd gweddill yr un deg chwech o etholaethau unrhyw addasiadau i'w henwau neu eu ffiniau.

Croesodd y tair etholaeth newydd y ffiniau rhwng y rhanbarthau etholiadol o Ganolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, gan arwain at addasiadau i ffiniau'r ddau ranbarth etholiadol, yn ogystal â mân addasiadau i'r etholaeth o Faldwyn a arweiniodd at fân addasiadau i ffiniau rhanbarthol hefyd. Yn Ne Cymru, newidiwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol, Gorllewin De Cymru a Chanol De Cymru, oherwydd y newidiadau i ffiniau'r etholaethau Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.

Daeth y newidiadau o ffiniau'r etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol i rym ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007. Defnyddiwyd yr un ffiniau yn etholiad cyffredinol y DU yn 2010, felly rhwng 2007 a 2010 roedd ffiniau gwahanol gan etholaethau Cynulliad Cymru a Senedd y DU.

Datgysylltu o etholaethau Senedd y DU[golygu | golygu cod]

Mae Adran 13(1) Deddf System Pleidleisio ac Etholaethau Seneddol 2011 yn dweud:[5]

The Assembly constituencies are the constituencies specified in the Parliamentary Constituencies and Assembly Electoral Regions (Wales) Order 2006 (S.I. 2006/1041)24 as amended by— the Parliamentary Constituencies and Assembly Electoral Regions (Wales) (Amendment) Order 2008 (S.I. 2008/1791) — Deddf System Pleidleisio ac Etholaethau Seneddol 2011.

Mae hyn yn manylu na weithredir ar etholaethau'r Cynulliad (y Senedd) unrhyw newidiadau pellach i etholaethau seneddol yng Nghymru a nodwyd yn y ddeddf (yn enwedig y lleihad arfaethedig o'r etholaethau i 30). Mewn sesiwn o Dŷ'r Cyffredin lle yr holwyd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Cheryl Gillan am wrthwynebiad y blaid Lafur i ddatgysylltu'r ddwy etholiad, ymatebodd:[6]

That is a very interesting thought. Hon. Members are well aware that the Parliamentary Voting System and Constituencies Act 2011 broke the link between Assembly constituencies and parliamentary constituencies. I have agreed that we need to look carefully at the implications of having constituency boundaries relating to different areas and regions for UK and Assembly elections in Wales. — Y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS

Ailenwi[golygu | golygu cod]

Ar 6 Mai 2020, daeth Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 i rym, gan ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, ac, yn ei thro, ailenwi'r etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol.

Ehangu a diwygio'r Senedd[golygu | golygu cod]

Bydd y 32 etholaeth seneddol yn cael eu paru i greu 16 o etholaethau Senedd Cymru

Ar 8 Mai 2024, pasiwyd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a gynydda faint y Senedd o 60 aelod i 96 aelod.[7][8] Bydd ASau'n cael eu hethol mewn 16 etholaeth a grëir drwy baru'r 32 etholaeth seneddol newydd a ddefnyddir yn etholiadau Senedd y DU ers 2024. Etholir chwe aelod ymhob etholaeth gan ddefnyddio rhestrau caeedig drwy'r dull D'Hondt fel yr etholid ASau rhanbarthol yn yr hen system. Bydd y system newydd yn cael ei defnyddio o etholiad 2026 ymlaen.

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a fydd yn paru'r etholaethau ar gyfer etholiad 2026 ac wedyn byddant yn cynnal adolygiadau cyfnodol o etholaethau'r Senedd yn annibynnol ar etholaethau seneddol.

Etholaethau a rhanbarthau (2007-presennol)[golygu | golygu cod]

Map o'r 40 etholaeth (ochr chwith) a'r 5 rhanbarth etholiadol (ochr dde) a ddefnyddiwyd o 2007 ymlaen
Rhanbarth Etholaethau Map
Canol De Cymru

(Etholwyr 2021: 521,078)[9]

1. Bro Morgannwg

2. Canol Caerdydd

3. Cwm Cynon

4. De Caerdydd a Phenarth

5. Gogledd Caerdydd

6. Gorllewin Caerdydd

7. Pontypridd

8. Rhondda

Canolbarth a Gorllewin Cymru

(Etholwyr 2021: 446,177)[9]

1. Brycheiniog a Sir Faesyfed

2. Ceredigion

3. Dwyfor Meirionnydd

4. Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

5. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

6. Llanelli

7. Maldwyn

8. Preseli Penfro

Dwyrain De Cymru

(Etholwyr 2021: 487,870)[9]

1. Blaenau Gwent

2. Caerffili

3. Dwyrain Casnewydd

4. Gorllewin Casnewydd

5. Islwyn

6. Merthyr Tudful a Rhymni

7. Mynwy

8. Torfaen

Gogledd Cymru

(Etholwyr 2021: 479,984)[9]

1. Aberconwy

2. Alun a Glannau Dyfrdwy

3. Arfon

4. De Clwyd

5. Delyn

6. Dyffryn Clwyd

7. Gorllewin Clwyd

8. Wrecsam

9. Ynys Môn

Gorllewin De Cymru

(Etholwyr 2021: 413,467)[9]

1. Aberafan

2. Castell-nedd

3. Dwyrain Abertawe

4. Gorllewin Abertawe

5. Gŵyr

6. Ogwr

7. Pen-y-bont ar Ogwr

Cyn etholaethau a chyn ranbarthau[golygu | golygu cod]

1999-2007[golygu | golygu cod]

Map o'r 40 cyn etholaeth (ochr chwith) a'r 5 cyn ranbarth etholiadol (ochr dde) a ddefnyddiwyd o 1999 i 2007
Rhanbarth Etholaethau Map
Canol De Cymru 1. Bro Morgannwg

2. Canol Caerdydd

3. Cwm Cynon

4. De Caerdydd a Phenarth

5. Gogledd Caerdydd

6. Gorllewin Caerdydd

7. Pontypridd

8. Rhondda

Canolbarth a Gorllewin Cymru 1. Brycheiniog a Sir Faesyfed

2. Ceredigion

3. Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

4. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

5. Llanelli

6. Meirionnydd Nant Conwy

7. Maldwyn

8. Preseli Penfro

Dwyrain De Cymru 1. Blaenau Gwent

2. Caerffili

3. Dwyrain Casnewydd

4. Gorllewin Casnewydd

5. Islwyn

6. Merthyr Tudful a Rhymni

7. Mynwy

8. Torfaen

Gogledd Cymru 1. Alun a Glannau Dyfrdwy

2. Caernarfon

3. Conwy

4. De Clwyd

5. Delyn

6. Dyffryn Clwyd

7. Gorllewin Clwyd

8. Wrecsam

9. Ynys Môn

Gorllewin De Cymru 1. Aberafan

2. Castell-nedd

3. Dwyrain Abertawe

4. Gorllewin Abertawe

5. Gŵyr

6. Ogwr

7. Pen-y-bont ar Ogwr

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006". deddfwriaeth.gov.uk. Senedd y DU.
  2. "Deddf Llywodraeth Cymru 1998". deddfwriaeth.gov.uk. Llywodraeth y DU.
  3. "Gorchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994". deddfwriaeth.gov.uk. Llywodraeth y DU.
  4. "Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006". deddfwriaeth.gov.uk.
  5. "Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011". deddfwriaethau.gov.uk. Senedd y DU.
  6. "Parliamentary Debates - Wednesday 11 May 2011" (PDF). publications.parliament.uk. Tŷ'r Cyffredin, Senedd y DU. 11 Mai 2011. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2023.
  7. "Aelodau'n pleidleisio o blaid diwygio'r Senedd". Golwg360. 2024-05-08. Cyrchwyd 2024-05-26.
  8. "Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)". busnes.senedd.cymru. 2023-09-18. Cyrchwyd 2024-05-26.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 "Rhestr etholwyr: Etholwyr yn ôl etholaethau Senedd Cymru a blwyddyn". StatsCymru. Cyrchwyd 28 Awst 2023.