Neidio i'r cynnwys

Epigram

Oddi ar Wicipedia

Ffurf lenyddol gryno, yn llinell, cwpled neu bennill, sy'n traethu doethineb neu wirionedd neu gyngor buddiol ynghylch bywyd a'r byd wedi'i fynegi'n goeth, yn fachog a chofiadwy yw epigram. Gair Groeg yw epigram sydd wedi cael ei fenthyg gan sawl iaith, yn cynnwys y Gymraeg, a gan lenorion Groeg yr Henfyd y ceir yr epigramau cynharaf yn nhraddodiad llenyddol y Gorllewin. Ceir ffurfiau tebyg mewn diwylliannau eraill hefyd, e.e. yr haiku yn llenyddiaeth Siapaneg, ac mae'n ffurf lenyddol boblogaidd yn y Gymraeg ers canrifoedd.

Tyfodd yr epigram yn y Gorllewin allan o arfer y Groegiaid o lunio beddargraffiadau am y meirw. Yn ddiweddarach cafwyd casgliadau o epigramau Groeg, yn cynnwys Y Flodeugerdd Roeg. Ymledaenodd yr epigram i Rufain a daeth beirdd fel Martial yn feistri arno. Parhaodd traddodiad yr epigram Lladin clasurol yn rhan o brif ffrwd llenyddiaeth Ewrop am ganrifoedd. Un o epigramwyr Lladin enwocaf yr 17g oedd y Cymro John Owen, a adnabyddwyd fel "Martial Prydain".

Yng Nghymru gellid dweud fod naws yr epigram yn elfen bwysig ym marddoniaeth gynnar y Cymry, yn enwedig yn y canu englynol, ond er y ceir llinellau a chwpledi sy'n epigramau mewn llawer o ganu y Cywyddwyr, ni ddatblygodd yn ffurf ar wahân tan y ddeunawfed ganrif. Perthyn yn agos i'r epigram y mae'r diharebion Cymraeg hefyd. Heddiw mae'n parhau i fod yn ffurf boblogaidd gan feirdd Cymraeg ac mae'n un o gystadlaethau arferol Talwrn y Beirdd.

Rhai enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Dyma ychydig o enghreifftiau o epigramau Cymraeg dros y blynyddoedd, gan gychwyn gyda chwpled enwog gan Llawdden (tua 1450-1480):

'Nôl blino'n treiglo pob tref
Teg edrych tuag adref.[1]

Rhys Cain (m. 1614) ar garu'n ofer:

Cur dwfn yw cariad ofer.[2]

Saunders Lewis yn y ddrama Siwan:

Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.[3]

Gerallt Lloyd Owen ar brofiad a chyfiawnder:

A ŵyr frath newyn i'r fron
A ry bris ar y briwsion.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol, rhif 101.
  2. ibid., rhif 506.
  3. ibid., rhif 794.
  4. ibid., rhif 1246.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Alan Llwyd (gol.), Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol (Cyhoeddiadau Barddas, 1985).