Neidio i'r cynnwys

Dima Tahboub

Oddi ar Wicipedia
Dima Tahboub
Ganwyd1976 Edit this on Wikidata
Hebron Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Iorddonen Iorddonen
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddMember of the House of Representatives of Jordan Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolIslamic Action Front Edit this on Wikidata

Mae Dima Tahboub (Arabic:ديمة طهبوب; g. 1976, Hebron) yn awdures, gwleidydd gweithredol, ac yn aelod o Frawdoliaeth Mwslemaidd yr Iorddonen. Mae hefyd yn llefarydd Saesneg dros y ffrynt Gweithredol Islamaidd Gwlad yr Iorddonen.[1][2]

Lladdwyd ei gŵr, a oedd yn ohebydd gydag Al Jazeera yn 2003, pan saethwyd dwy daflegryn o awyren Unol Daleithiau America gan chwalu un o adeiladau Al Jazeera.

Tyfu i fyny[golygu | golygu cod]

Cafodd ei geni ym 1976 ac roedd ei thad Tarek Tahboub yn gyn-bennaeth Cymdeithas Feddygol Gwlad yr Iorddonen.[3] Yn 2000 priododd Dima a Tareq Ayyoub, ac yn 2002 cawsant ferch, Fatima.[4]

Prifysgol[golygu | golygu cod]

Wedi graddio mewn Saesneg ym Mhrifysgol Gwlad yr Iorddonen, cwbwlhaodd Dima Tahboub ddoethuriaeth o Brifysgol Manceinion.[4]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Dechreuodd gyhoeddi'n rheolaidd gyda phapur newydd Assabeel yn yr Iorddonen, ac mae wedi ysgrifennu dros 800 o erthyglau. Yna cyhoeddodd yn Al-Quds Al-Arabi ac Islamtoday ac Al-Jazeera Talk, ac mewn papurau newydd Palesteinaidd a llawer o wefannau cymdeithasol.

Mae ffocws ei hysgrifennu'n aml yn cynnwys gogwydd ar Balesteina.

Cwestiynnu barn y gorllewin[golygu | golygu cod]

Yn 2017, lobiodd Tahboub y Llywodraeth i wahardd band cerddorol Mashrou 'Leila o Libanus, gan geisio eu gwahardd rhag perfformio yn Amman oherwydd fod y band yn galw am ryddid rhywiol. Cyhoeddodd gŵyn hefyd yn erbyn yr unig gylchgrawn LGBTQ yn yr Iorddonen, My Kali, a llwyddodd i wthio llywodraeth Jordanian i'w sensro.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The king and the people!". Al Jazeera. 2012-07-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-25. Cyrchwyd 2014-10-06.
  2. New Media spokesperson of the Jordanian Islamic Action Front in English Archifwyd 2017-07-30 yn y Peiriant Wayback.(ar)
  3. Jordan's Brotherhood appoints 1st spokeswoman, world bulletin, 03 Hydref 2014
  4. 4.0 4.1 Tareq Ayoub: a 'martyr to the truth', 14 Dec 2011, Aljazeera
  5. "Jordanian MP engages in ongoing battle against LGBT+ community". Ro'ya News. 31 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2018.