Neidio i'r cynnwys

Diffeithwch Libia

Oddi ar Wicipedia
Diffeithwch Libya
Mathanialwch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSahara Edit this on Wikidata
GwladLibia, Yr Aifft, Swdan Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,100,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,024 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau24°N 25°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Diffeithwch Libia yn rhan o anialwch y Sahara. Gorwedd y rhan fwyaf o'r diffeithwch o fewn Libia ei hun ac yn llenwi'r rhan fwyaf o ddwyrain y wlad ond mae'n cynnwys rhan o ogledd-orllewin Yr Aifft yn ogystal: (gwerddon Siwa, er enghraifft).

Mae'r rhan fwyaf o'r diffeithwch yn isel ac ni cheir bryniau ond yn y de ac ymyl gogleddol y diffeithwch. Ychydig iawn o werddonau a geir yno ond mae ganddi gronfeydd olew anferth o dan ei hwyneb.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwelwyd ymladd ffrynig rhwng byddin Montgomery a'r Afrika Korps Almaenig yng ngogledd y diffeithwch ac ar yr arfordir, yn arbennig yn Tobruk a Benghazi.

Eginyn erthygl sydd uchod am Libia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato