Neidio i'r cynnwys

Cynon

Oddi ar Wicipedia
Cynon
GanwydTeyrnas Brycheiniog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl9 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
Erthygl am y sant yw hon. Am yr arwr o'r Hen Ogledd gweler Cynon fab Clydno Eiddin.

Sant o Gymro oedd Cynon (fl. 6g). Yn ôl un ffynhonnell roedd yn un o feibion Brychan, sefydlydd traddodiadol Brycheiniog.[1]

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Ceir peth cymysgedd yn y traddodiadau amdano ac mae'n bosibl iddo gael ei gymysgu weithiau â Cynon, mab Clydno Eiddin o'r Hen Ogledd. Ceir cyfeiriadau hefyd at un Cynon Fanaw neu Cynon o Fanaw, a ymsefydlodd ar Ynys Manaw. Ond gan fod y sant hwnnw yn rhannu'r un wylmabsant (9 Tachwedd), ac yn fab i Frychan, mae'n debygol mai'r un gŵr ydyw.[1]

Cysylltir Cynon â sawl lle yng ngorllewin a de Cymru. Dywedir ei fod wedi astudio yn Llancarfan a Llanilltud Fawr dan y sant Cadfan; yn ôl un traddodiad daeth o Lydaw gyda Chadfan i sefydlu clas ar Ynys Enlli. Ceir eglwysi sy'n gysegredig iddo yn Nhregynon (Maldwyn) a Chapel Cynon (Ceredigion). Ger Llanbister ym Maesyfed roedd Croes Cynon (enw plasdy bellach) a Chraig Cynon wrth ffrwd o'r enw Nant Cynon.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).