Neidio i'r cynnwys

Cwpan Doddie Weir

Oddi ar Wicipedia
Cwpan Doddie Weir
Enghraifft o'r canlynolrugby union trophy or award, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon, rugby union match Edit this on Wikidata
CrëwrHamilton & Inches Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2018 Edit this on Wikidata
LleoliadCymru, Yr Alban Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae Cwpan Doddie Weir (Saesneg:Doddie Weir Cup) yn dlws gwastadol rygbi'r undeb sydd yn cael ei herio rhwng yr Alban a Chymru ers 2018. Crëwyd y cwpan i ddod ag ymwybyddiaeth i glefyd niwronau motor. Cafodd cyn-glo rhyngwladol yr Alban Doddie Weir ddiagnosis o’r salwch ac enwyd y cwpan er anrhydedd iddo.[1]

Enillodd Cymru yn y gêm agoriadol o 21 pwynt i 10 yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2018.[2] Cymru yw'r deiliaid presennol.[3]

Dyluniad[golygu | golygu cod]

Comisiynwyd y cwpan ar y cyd gan Undeb Rygbi'r Alban ac Undeb Rygbi Cymru a chafodd ei ddylunio gan y gofaint arian o Gaeredin Hamilton ac Inches.[4]

Dywedodd Doddie Weir am y tlws bod y gof arian "wedi gwneud gwaith hollol wych wrth ei wneud gyda dolenni mawr i efelychu fy nghlustiau enfawr!".[5]

Elusen[golygu | golygu cod]

Sefydlodd Weir elusen o'r enw My Name'5 Doddie Foundation i helpu i ariannu triniaethau ar gyfer clefyd niwronau motor.[6]

Yn wreiddiol, nid oedd Undeb Rygbi Cymru nac Undeb Rygbi'r Alban yn bwriadu cyfrannu unrhyw arian werthiant tocynnau i'r gêm agoriadol i'r elusen,[7] ond arweiniodd pwysau gan gefnogwyr ac yn y cyfryngau at roi swm chwe ffigwr yn y pen draw.[8]

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Manylion Wedi chwarae Wedi ennill gan
 yr Alban
Wedi ennill gan
 Cymru
Cyfartal Pwyntiau i'r Alban Pwyntiau i Gymru
Yn yr Alban 2 0 2 0 35 43
Yng Nghymru 2 1 1 0 24 31
Cyfanswm 4 1 3 0 59 74

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Dyddiad Lleoliad Cartref Sgôr Oddi Gartref Enillydd
2018 3 Tachwedd Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd  Cymru 21–10  yr Alban  Cymru
2019 9 Mawrth Stadiwm Murrayfield, Caeredin  yr Alban 11–18  Cymru  Cymru
2020 31 Hydref Parc y Scarlets, Llanelli  Cymru 10–14  yr Alban  yr Alban
2021 13 Chwefror Stadiwm Murrayfield, Caeredin  yr Alban 24–25  Cymru  Cymru

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pwysau ar undebau rygbi i gyfrannu arian". 2018-10-29. Cyrchwyd 2019-09-05.
  2. "Croesawu'r Alban yng Nghyfres yr Hydref yn 2018". BBC Cymru Fyw. 2018-01-19. Cyrchwyd 2021-02-14.
  3. "Pencampwriaeth y 6 Gwlad: Yr Alban 24-25 Cymru". BBC Cymru Fyw. 2021-02-13. Cyrchwyd 2021-02-14.
  4. "Doddie Weir Cup Design". Hamilton & Inches. Cyrchwyd 2021-02-14.
  5. Barnes, David (2018-10-28). "SRU and WRU have let the sport down, but Doddie Weir Cup is still well worth celebrating". The Offside Line (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-14.
  6. "Cefnogaeth 'anhygoel' i Doddie Weir yng Nghymru". BBC Cymru Fyw. 2018-11-02. Cyrchwyd 2021-02-14.
  7. "Scottish Rugby defends Weir cash decision". BBC Sport. Cyrchwyd 2021-02-14.
  8. "Elusen: Undeb Rygbi Cymru'n ildio i bwysau". BBC Cymru Fyw. 2018-10-30. Cyrchwyd 2021-02-14.