Neidio i'r cynnwys

Cap Blanc

Oddi ar Wicipedia
Cap Blanc
Mathpentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBizerte Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.3411°N 9.7467°E Edit this on Wikidata
Map

Y Cap Blanc (Arabeg: الرأس الأبيض Ra's al-Abiad, sef "Y Penrhyn Gwyn"; enw amgen: Ras ben Sakka) yw pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica. Fe'i lleolir ar lan y Môr Canoldir yng ngogledd Tiwnisia, ar gyrion dinas Bizerte, tua 78 km i'r gogledd-orllewin o Diwnis, prifddinas y wlad.

Gorwedd y Cap Blanc tua 10 km i'r gogledd o ganol dinas Bizerte, ar ran o'r arfordir sydd wedi ei datblygu ar gyfer twristiaeth ers rhai degawdau fel y Corniche (math o rodfa môr). Caiff yr enw Cap Blanc am fod ei greigiau o liw gwyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.