Buchedd Dewi

Oddi ar Wicipedia
Delweddau allanol
Tudalen o lawysgrif Llanstephan 4

Testun crefyddol Cymraeg Canol sy'n adrodd hanes bywyd Dewi Sant yw Buchedd Dewi. Mae'n gyfieithiad o'r testun Lladin Vita Davidis, a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1094 gan Rygyfarch ap Sulien, ac enghraifft o fucheddau'r saint neu hagiograffeg yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Hon yw'r ffynhonnell draddodiadol am fanylion bywyd Dewi, ond gan i waith Rhygyfarch gael ei ysgrifennu dros 500 mlynedd wedi i Dewi farw, mae amheuaeth pa mor ddibynadwy yw'r hanes. Ceir y testun Cymraeg Canol mewn sawl llawysgrif, gan gynnwys llsgr. Llanstephan 4,[1] llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth),[2] a Llyfr Ancr Llanddewibrefi.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llsgr. Llanstephan 4 Archifwyd 2020-08-09 yn y Peiriant Wayback., Rhyddiaith Gymraeg 1300–1425 (Prifysgol Caerdydd). Adalwyd ar 16 Mai 2017.
  2. Llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth) Archifwyd 2020-08-09 yn y Peiriant Wayback., Rhyddiaith Gymraeg 1300–1425 (Prifysgol Caerdydd). Adalwyd ar 16 Mai 2017.
  3. Llsgr. Coleg yr Iesu 119 (Llyfr Ancr Llanddewi Brefi)[dolen marw], Rhyddiaith Gymraeg 1300–1425 (Prifysgol Caerdydd). Adalwyd ar 16 Mai 2017.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]