Bathodyn Brenhinol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Bathodyn Brenhinol Cymru
Manylion
Mabwysiadwyd2008
ArwyddairPleidiol Wyf i'm Gwlad

Bathodyn Brenhinol Cymru yw'r bathodyn neu arfbais sy'n ymddangos ar deddfau Senedd Cymru.

Deddf cyntaf[golygu | golygu cod]

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, cafodd Senedd Cymru (Cynulliad ar y pryd) bwerau i wneud deddfwriaeth mewn rhai meysydd heb ganiatâd gan San Steffan.

Cafodd Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG ei gymeradwyo a'i gwneud yn haws ac yn gyflymach i hawlio iawndal ar ôl triniaeth esgeulus gan GIG Cymru. Hwn oedd y mesur cyntaf, neu gyfraith Cymru, i gwblhau'r broses.[1]

Arfbais[golygu | golygu cod]

Ers hyn, fe wnaeth deddfwriaeth gynnwys arfbais Cymru, neu Fathodyn Brenhinol Cymru, am y tro cyntaf. Mae’n seiliedig ar arfbeisiau tywysogion brodorol Cymru, yn dyddio’n ôl i’r 13g, wedi’i dylunio gan y "Garter King of Arms", Peter Gwynne-Jones.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "First Welsh law's royal approval" (yn Saesneg). 2008-07-09. Cyrchwyd 2024-05-24.