Neidio i'r cynnwys

Afon Lleiniog

Oddi ar Wicipedia
Afon Lleiniog
Afon Lleiniog ger Castell Aberlleiniog
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.290763°N 4.072646°W Edit this on Wikidata
Map

Un o afonydd Môn yw Afon Lleiniog, sy'n llifo yn ne-ddwyrain yr ynys. Mae'n llifo i Afon Menai rhwng Penmon a Biwmares. Ei hyd yw tua 5 milltir.

Cwrs[golygu | golygu cod]

Mae ei phrif darddle gerllaw bryngaer Bwrdd Arthur, rhwng Llanddona a Mariandyrys. Mae'n dilyn cwrs troellog i gyfeiriad y de ac wedyn i'r dwyrain gyda sawl ffrwd llai yn llifo iddi erbyn cyrion Llangoed, lle daw ei phrif lednant, Afon Brenin i lawr o gyfeiriad y gogledd. Oddi yno mae'n llifo am filltir arall i'r dwyrain gan basio wrth ymyl Castell Aberlleiniog i gyrraedd Afon Menai ger Lleiniog.

Aber Afon Lleiniog

Brwydr Aberlleiniog[golygu | golygu cod]

Codwyd Castell Aberlleiniog gan Huw Flaidd, Iarll Caer, yn y flwyddyn 1088 fel rhan o ymgais Normaniaid Caer i oresgyn teyrnas Gwynedd.[1] Pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan o Ddulyn yn 1094 casglodd fyddin yn Nefyn ac yna hwyliodd i Benmon a glanio ar y traeth yn Aberlleiniog; oddi yno ymosododd ar y castell yn llwyddiannus. Amddiffynwyd y castell gan 80 o farchogion ac 14 ysgwier ifainc. Cipiwyd y castell a'i losgi a lladdwyd nifer o'r amddiffynwyr. Cofnodir y digwyddiad yn Hanes Gruffudd ap Cynan.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982), tud. 42
  2. Historia Gruffud vab Kenan, gol. D. Simon Evans (Caerdydd, 1977), tt.20-21