Neidio i'r cynnwys

Afon Elái

Oddi ar Wicipedia
Afon Elái
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd69.22 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.45°N 3.17°W, 51.49565°N 3.345789°W Edit this on Wikidata
AberMôr Hafren Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Afon yn ne Cymru yw Elái (Saesneg: Ely). Mae hi'n tarddu gerllaw Tonypandy, ac yn llifo tua'r de-ddwyrain heibio i Donyrefail, Ynysmaerdy, a Llantrisant. Mae afon Clun yn ymuno â hi ger Pontyclun, yna mae hi'n parhau tua'r de-ddwyrain heibio i Feisgyn a thrwy ardaloedd mwy gwledig, cyn troi tua'r dwyrain ger Llanbedr-y-fro. O fan 'na mae'r afon yn llifo rhwng Sain Ffagan a Llanfihangel-ar-Elái ac wedyn ar ochr ogleddol Trelái, cyn troi tua'r de-ddwyrain eto i gyrraedd y môr ym Mae Caerdydd.

Mae'r afon ar adegau'n gorlifo a cheir llifogydd.

Safle tynnu coed a changhennau ychydig i fyny'r afon o bont yr A48

Cafwyd llifogydd yn yr ardal hon ym Medi 2008 pan gafodd 27 o dai eu llifogi a gorlifodd yr afon hefyd yn 2011, 2012 ac yn 2020.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru; adalwyd 10 Medi 2010.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.