ACCAC

Oddi ar Wicipedia

Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) oedd prif gorff ymgynghorol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar bob agwedd ar addysg a chymwysterau. Cafodd ei uno ag adran addysg a sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2006, gyda nifer o gyrff eraill i greu AADGOS (Yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau), a drowyd wedyn yn APADGOS (Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau).

Roedd swyddfa'r awdurdod yng Nghaerdydd.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

ACCAC Archifwyd 2003-07-23 yn y Peiriant Wayback.