Neidio i'r cynnwys

Tylluan fach y diffeithwch

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tylluan Fach)
Tylluan fach y diffeithwch
Athene noctua lilith

,

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Strigiformes
Teulu: Strigidae
Genws: Athene[*]
Rhywogaeth: Athene noctua
Enw deuenwol
Athene noctua
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Tylluan fach y diffeithwch (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: tylluanod bach y diffeithwch) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Athene noctua lilith; yr enw Saesneg arno yw Desert little owl. Mae'n perthyn i deulu'r Tylluanod (Lladin: Strigidae) sydd yn urdd y Strigiformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. noctua lilith, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'n aderyn cyffredin neu gweddol gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, Asia a gogledd Affrica. Nid yw'r rhywogaeth yma yn frodorol i Ynys Prydain; cawsant eu gollwng yn y 19g ac maent wedi ymsefydlu'n llwyddiannus.

Fel y gellir casglu o'r enw, mae'r Dylluan Fach yn un o'r lleiaf o'r tylluanod, 23-27.5 cm o hyd. Mae'n bwyta pryfed, pryfed genwair ac anifeiliaid bychain eraill. Mae i'w gweld yn ystod y dydd yn amlach na'r rhan fwyaf o dylluanod eraill Ewrop.

Ceir y Dylluan Fach mewn tir agored megis ffermdir a pharcdir. Mae'n nythu mewn tyllau mewn coed neu greigiau ac yn dodwy 3-5 ŵy. Yr isrywogaeth a geir trwy'r rhan fwyaf o Ewrop yw A. n. noctua. Mae gan adar yr isrywogaeth hon blu brown gyda marciau gwyn ar y cefn a phlu gwyn gyda marciau brown ar y bol. Mae adar yr isrywogaethau a geir yng ngogledd Affrica (A. n. desertae) a'r Dwyrain Canol (A. n. lilith) yn fwy gwelw.

Pen Athena a'i thylluan ar darn arian tetradrachm, Athen, tua 393-355 CC (llun: gyda chaniatâd CNG Coins)

Mae'r dylluan fach i'w chael fel rheol mewn ardaloedd lle mae cymysgedd o goed a chaeau, ac nid yw'n aderyn mudol. Daw'r enw gwyddonol ar y genws o'r ffaith fod yr aderyn yn gysegredig i'r dduwies Athena, duwies dinas Athen.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r tylluan fach y diffeithwch yn perthyn i deulu'r Tylluanod (Lladin: Strigidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Tylluan Fach Athene noctua
Tylluan Gorniog Asio otus
Tylluan Tengmalm Aegolius funereus
Tylluan bysgod Malaia Ketupa ketupu
Tylluan bysgod frown Ketupa zeylonensis
Tylluan dyrchol Athene cunicularia
Tylluan fach fraith Athene brama
Tylluan fronfelen Aegolius harrisii
Tylluan glustiog Asio flammeus
Tylluan gorniog Abysinia Asio abyssinicus
Tylluan gorniog Madagasgar Asio madagascariensis
Tylluan hogi Aegolius acadicus
Tylluan y gors Asio capensis
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Athene noctua vidalii

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Tylluan fach y diffeithwch gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.