Mormoniaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mormon)
Mormoniaeth
Enghraifft o'r canlynolmudiad crefyddol Edit this on Wikidata
MathLatter Day Saint movement, nontrinitarianism, premillennialism Edit this on Wikidata
SylfaenyddJoseph Smith Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Crefydd a ddechreuodd yn Unol Daleithiau America yn 1831, ar ôl i Joseph Smith, Jr. honni iddo gael datguddiad oddi wrth Dduw yw Mormoniaeth. Mae gan yr eglwys Formonaidd mwy na 11 miliwn o aelodau.

Y mwyaf o'r enwadau Mormonaidd yw Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf.

Cysylltiadau â Chymru[golygu | golygu cod]

Mae gan y Mormoniaid gysylltiadau hanesyddol cryf â Chymru, yn enwedig y de. Bu cenhadon Mormonaidd yn weithgar yng Nghymru yn y 1840au a'r 1850au, a throdd miloedd o bobl i'r grefydd newydd. Ymfudodd nifer ohonyn nhw i America, ac aeth cyfran sylweddol o'r ymfudwyr hynny ar y Symudiad mawr i'r Gorllewin gyda Brigham Young, a ddechreuodd yn 1847. Ymsefydlodd y Cymry gyda'r Mormoniaid eraill yn Utah, a dywedir fod tua 20% o boblogaeth y dalaith honno o dras Gymreig heddiw.[1]

Cyhoeddwyd sawl cylchgrawn a llyfr yn y Gymraeg gan y Mormoniaid yn y 19g, yn cynnwys Utgorn Seion. Daniel Jones (Mormon) (g. 4 Awst 1811) o Abergele oedd un o'u harweinwyr. Wedi iddo ymfudo i America troes Daniel Jones yn Formon wrth ei waith yn cludo credinwyr y grefydd honno mewn cwch a oedd dan ei ofal. Roedd gyda Joseph Smith ar y 26 Mehefin 1844 lofruddiwyd ef. Y flwyddyn ddilynol dychwelodd i Gymru yn genhadwr Mormonaidd. Gwnaeth Ferthyr Tydfil yn ganolfan a chyhoeddi yno gyfnodolyn misol, Prophwyd y Jubili. Hwyliodd o Lerpwl ar 26 Chwefror, 1849, gyda 249 o Gymry, a bu'n gofalu amdanynt ar y daith ar draws y gwastadeddau gan gyrraedd Salt Lake City ar 26 Hydref 1849 gyda'r fintai yn teithio mewn 25 o wagenni caeedig. Ym mis Awst 1852 dychwelodd ar ail daith genhadol, ac yn 1856 aeth â 703 o 'seintiau Cymreig' i Salt Lake City. Treuliodd weddill ei oes yn gapten cwch ar lyn Great Salt. Bu farw 3 Ionawr 1861, gan adael tair gwraig a chwech o blant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "welshmormonhistory.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-27. Cyrchwyd 2009-06-16.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.