Neidio i'r cynnwys

Llydandroed llwyd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llydandroed Llwyd)
Llydandroed llwyd
Phalaropus fulicarius

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Llydandroed Gyddfgoch
Rhywogaeth: Phalaropus fulicarius
Enw deuenwol
Phalaropus fulicarius
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Llydandroed llwyd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: adar llydandroed llwydion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Phalaropus fulicarius; yr enw Saesneg arno yw Grey phalarope. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. fulicarius, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[3]

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r llydandroed llwyd yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Y Llydandroed Llwyd yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Dyma hen ysgrif papur newydd air am air o 1899 am y llydandroed... a hynny yn annisgwyl efallai, yn y Gymraeg:

Y PHALAROPE.
Drwg genyf ddarfod i mi yn fy ysgrif frysiog ar nodweddion y Phalarope esgeuluso rhoddi yr enw Cymraeg wrth yr hwn yr adnabyddir yr aderyn uchod, sef yw hyny, Pibydd Llwyd Llydandroed. Da genyf ddeall trwy lythyr Mr RLM Pritchard yn y Cymro cyn y diweddaf fod yr aderyn prydferth uchod yn fwy cyffredin yn Mhrydain nag y bu. Diamhau genyf fod y fath honiad yn sylfaenedig ar awdurdod gadarn, neu ni fuasai ef yn gwrthddweyd geiriau ei gyfaill. Yr oll a ddywedaf mewn amddiffyniad yw nad wyf ond yn unig rhyw bwt bychan o ednogaethwr ymarferol, yn hoffi cwmni adar er yn blentyn, ac yn fy alltudiaeth yn derbyn llawer iawn o fwynhad wrth sylwi ar eu dull dyddorol o fyw ond pan ddigwydd i un dyeithr ymddangos yn eu plith, rhaid fydd i mi droi i ymgynghori a'r awdurdodau, ac felly y bu y tro hwn yn achos yr aderyn a elwir gan y naturiaethwr bydenwog, y Parch F. 0. Morris, B.A., yn Bibydd, &c.
Rhaid i mi addef nad oeddwn yn hoffi ei enw Cymraeg, Mr Gol., gan nad beth yw ei ystyr wreiddiol. Mewn perthynas i'w gyffredinolrwydd yn y parthau hyn, gellir dweyd, ar awdurdod Mr Henry Ecroyd Suiith, ddarfod i ddau ohonynt gael eu saethu yn Crosby yn 1863, ac un yn fwy diweddar yn ardal Bidston, ond y cyntaf a welais erioed yn fyw ydyw yr un sydd yn cael ei arddangos y dyddiau hyn yn ffenestr Mr W. Cox, 36, Manchester Street, Lerpwl.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
  4. YNYSWR Y Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug),16 Chwefror 1899
Safonwyd yr enw Llydandroed llwyd gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.