Neidio i'r cynnwys

Pont y Fenni

Oddi ar Wicipedia
Pont y Fenni
Mathpont Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadY Fenni Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr44.8 metr, 44.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8196°N 3.02928°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM010 Edit this on Wikidata

Pont garreg sy'n croesi Afon Wysg yn Sir Fynwy, Cymru, yw Pont y Fenni. Saif i'r de o dref y Fenni. Mae'n cludo ffordd yr A4143, sy'n ymuno ag y A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd) ym mhentref Llan-ffwyst ar y lan deheuol.

Cofnodwyd i'r bont gael ei hadeiladu yn y 15g gan Siasbar Tudur, Dug Bedford a Barwn y Fenni yn ystod teyrnasiad Harri VI. Mae'n strwythur cyfansawdd o dri chyfnod. Mae'r bwâu a'r pierau i lawr yr afon yn perthyn i'r bont wreiddiol o'r 15g, tra bod y rhai i fyny'r afon yn rhan o bont dramffordd (1811) a oedd yn cludo Rheilffordd Llanfihangel o'r gamlas yn Llan-ffwyst. Mae'r ffordd a'r parapet yn dyddio o 1868 pan gyfunwyd y ddwy bont.[1]

Mae gan y bont garreg saith bwa. Rhwng y pierau y mae dorddyfroedd (Saesneg: cutwaters) trionglog anghyson o ran siâp. Mae'r bwâu'n fwy pigfain ar yr ochr i lawr yr afon. Ym mhen y Fenni mae dau fwa llifogydd isel gydag ategwaith grisiog rhyngddynt. Mae'r bont wedi'i lledu i'r ochr i fyny'r afon, sydd â bwâu o siâp mwy rheolaidd gyda'r torddyfroedd rhyngddynt wedi'u codi o dan y parapet newydd. Ar yr ochr i fyny'r afon mae corbelau ar gyfer hen barapet. Mae’r holl afreoleidd-dra yn y gwaith adeiladu yn tystio i’r newidiadau ac addasiadau niferus a gafodd y bont dros y canrifoedd.

I’r gorllewin o’r bont ffordd mae olion hen bont reilffordd LNWR, lein i Ferthyr Tudful a fu’n gweithredu o 1860 i 1958.


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Usk Road Bridge; Abergavenny Bridge, Abergavenny", Coflein; adalwyd 15 Chwefror 2025

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]